Cyfleoedd i Staff

Mae Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn gweithio i ddarparu pecyn hyfforddiant amrywiol i bob aelod o'r staff er mwyn eu cefnogi i ddysgu am iechyd meddwl a lles y myfyrwyr.  Rydym yn cynnig modiwlau byr ar-lein y gellir gweithio arnynt ar unrhyw adeg, a sesiynau hyfforddiant a arweinir gan ymarferwyr y gellir archebu lle arnynt drwy dudalennau'r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Defnyddiol ar gyfer trafodaethau ynglŷn ag astudiaethau achos dienw.

Rhestrir gwybodaeth am ein holl opsiynau hyfforddiant isod. Gallwn hefyd weithio gyda chi er mwyn argymell a chyflwyno hyfforddiant adrannol/cyfadrannol i unrhyw faes gwasanaeth, felly cysylltwch â ni i gael trafodaeth am beth allai helpu.

E-ddysgu Ar-lein i staff

Mae Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr hefyd yn bwriadu darparu sesiwn e-ddysgu gan yr Ymddiriedolaeth (tua 3 awr ei hyd) lle bydd Ymarferydd Lles yn arwain grŵp o staff drwy bob modiwl e-ddysgu. Byddwn yn darparu rhagor o fanylion pan fydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi'u cyflwyno.

Dyma ddisgrifiadau o'r modiwlau e-ddysgu:

Teitl y Modiwl

Manylion y Modiwl

1 Egwyddorion Allweddol

Mae myfyrwyr yn troi at wasanaeth lles y myfyrwyr i gael cymorth, ond maent yn aml yn cael sgwrs anffurfiol â staff eraill. Mae'r sesiwn hon yn ystyried y prif egwyddorion y bydd yn rhaid ichi eu hystyried wrth gefnogi myfyrwyr yn y sefyllfaoedd anffurfiol hynny.

2 Yr arwyddion y dylech edrych amdanynt

Cyflwyniad i'r arwyddion hynny sy’n awgrymu bod iechyd meddwl rhywun yn dirywio. Ar ôl ichi gwblhau'r modiwl, byddwch yn gallu adnabod y nodweddion hynny sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl da, adnabod ymddygiad sy'n debygol o gael ei ystyried yn 'arferol' i fyfyrwyr prifysgol ar adegau penodol, adnabod yr amodau hynny sy'n gofyn am ymateb cyflym a gwybod lle i gael rhagor o wybodaeth.

3 Sgiliau Allweddol

Yn gallu adnabod rhinweddau gwrandäwr da, gwybod beth yw'r pum prif sgil sy'n gysylltiedig â gwrando gweithredol, gweithio drwy bedwar datganiad y gellir eu hystyried yn rhwystrau i wrando, adnabod cwestiynau agored, ymchwilgar, arweiniol a chaeedig, a deall y gwahaniaeth rhwng empathi a chydymdeimlad.

4 Cyfnodau Pontio

Cewch ddysgu am rai o'r anawsterau y mae myfyrwyr yn eu cael wrth iddynt gychwyn yn y brifysgol. Cewch awgrymiadau ynglŷn â phryd y dylech gyfeirio myfyrwyr at bobl eraill a allai eu helpu.

5 Myfyrwyr sy'n wynebu risg neu sydd mewn argyfwng

Ymateb i fyfyrwyr sydd mewn argyfwng, a/neu sy'n peryglu'u lles eu hunain neu les eraill. Dysgu sut i helpu myfyrwyr yn y sefyllfaoedd hyn, a theimlo ein bod yn cael digon o gefnogaeth ein hunain ac oddi wrth ein cydweithwyr.

6 Astudiaeth Achos

Adolygiad o'r hyn a ddysgwyd a chyfle i ddod â sgiliau o sesiynau eraill ynghyd er mwyn ichi gael crynodeb allweddol o'r modd y gellir helpu myfyrwyr. Bydd cyfle hefyd i weld arfer dda ar waith mewn astudiaeth achos.

Hyfforddiant a Arweinir gan Ymarferwyr

Mae'r sesiynau hyn, p'un a ydynt yn digwydd wyneb yn wyneb ynteu drwy webinarau ar-lein, yn gyfle i ddysgu mwy am broblemau myfyrwyr, sut y gallant ddod i'r amlwg a beth yw'r ffordd orau o gynorthwyo'r myfyriwr a'r aelod staff. Cyflwynir y sesiynau dros PowerPoint ac mae digon o gyfle i ystyried astudiaethau achos dienw, gan sicrhau bod yr hyn yr ydych yn ei ddysgu yn berthnasol i'ch profiadau bob dydd.

Togetherall

Arddangosiad gweminar o gynnwys y llwyfan Togetherall i gynorthwyo ymwybyddiaeth staff o sut y gall y llwyfan gynorthwyo unigolion ar gyfer cyfleoedd cyfeirio.

Cyflwynir gan Emma Lambert, Rheolwr Cyfrifon yn Togetherall.

Dyddiadau ac Amseroedd:

26 Mai 11:00 - 11:45

8 Mehefin 14:00 - 14:45

Archebwch drwy'r dudalen hyfforddiant datblygu staff.

Cyfweld Ysgogiadol

Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Clipiau Fideo ar Gefnogi Lles Myfyrwyr

Mae’r pedair fideo fer – pob un yn llai na munud o hyd – yn rhoi cyngor ymarferol ar sut gall tiwtoriaid personol ac aelodau eraill o’r staff academaidd wneud gwahaniaeth er gwell i les meddyliol myfyrwyr. Maent yn cynnwys awgrymiadau ar sut i ymdawelu wrth siarad â myfyrwyr sy’n cael anhawster, paratoi ymatebion syml a defnyddiol ymlaen llaw, a gofalu am eich lles eich hun wrth gefnogi myfyrwyr. Gallant naill ai gael eu defnyddio gan aelodau unigol o staff neu’n rhan o sesiwn hyfforddiant.

Gallwch wylio’r fideos yma:

Ymddiriedolaeth Goffa Charlie Wallor – Clipiau Fideo ar Gefnogi Lles Myfyrwyr