Meddwl am Hunanladdiad

Pan fyddwn mewn sefyllfaoedd anodd, gall ein meddwl greu syniadau ynglŷn â gwneud diwedd ein hunain. Gall bod yn ymwybodol o'r meddyliau hyn ychwanegu at ein hanawsterau. Mae'n bwysig gofyn am help os ydych chi'n cael meddyliau ynglŷn â gwneud diwedd eich hun, er mwyn eich helpu i ddeall y meddyliau a'u rheoli'n effeithiol. Os ydych chi'n teimlo nad oes modd i chi gadw eich hun yn ddiogel, rydym yn cynghori eich bod yn dweud wrth rywun ac yn cael cymorth brys. Mae'r rhestr isod yn rhoi gwybodaeth am reoli meddyliau a phwy y gellir cysylltu â hwy mewn argyfwng.

Cymuned a chymorth ar-lein - Togetherall

Sgwrs â'r gymuned yn ddienw, asesiad a modiwlau hyfforddiant er mwyn eich helpu i ymdopi - ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. https://togetherall.com/

Mind Over Mood – Dr Christine Padesky

Gwybodaeth ar-lein ynglŷn â rheoli eich tymer gan yr arbenigwr byd-eang mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol, Christine Padesky https://www.mindovermood.com/

MIND Ar-lein

Egluro teimladau sy'n gysylltiedig â hunanladdiad, a beth ellir ei wneud i ymdopi https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/suicidal-feelings/about-suicidal-feelings/

Dr Russ Harris, The Happiness Trap ar YouTube 

Awgrymiadau defnyddiol er mwyn ymdopi â meddyliau a theimladau anodd https://thehappinesstrap.com/unhooking-from-difficult-thoughts-or-feelings/

Llinell ffôn neu e-bost am ddim bob awr o'r wythnos - Y Samariaid

Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bost https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned.

Eisiau siarad â rhywun am eich meddyliau a'ch teimladau? Gall C.A.L.L eich helpu. Gwefan: www.callhelpline.org.uk Ffoniwch: 0800 132 737   ·   Tecstiwch: help i 81066 (cymorth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i bobl yng Nghymru)

MIND Aberystwyth

I gael cymorth yn lleol cysylltwch â changen leol Mind i gael sgwrs a chefnogaeth fuddiol

Cyfeiriad: Y Cambria, Glan y Môr, Aberystwyth SY23 2AZ Ffôn: 01970 626225

Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Nid ydym yn wasanaeth brys ond rydym ni'n argymell eich bod yn cysylltu â ni ar ôl cael y cymorth cywir. Gall ein hymarferwyr cymwysedig eich helpu i reoli eich meddyliau a'u heffaith ar eich bywyd academaidd. Gallwch gofrestru â'n gwasanaeth ar-lein.

Cymorth ar Frys - Pryderu ynglŷn â'ch diogelwch eich hun neu ddiogelwch rhywun arall?