Straen

Mae teimlo gofid a phwysau yn rhan o fywyd. Gall teimlo gofid a phwysau am gyfnodau maith arwain at straen, a gall hyn effeithio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Mae llawer y gallwn ei wneud er mwyn helpu i leihau effaith straen. Drwy adnabod cyfnodau maith o bwysau, a drwy roi strategaethau syml ar waith yn ddigon cynnar, gallwch ymdopi â'ch straen mewn ffordd iach.

Cymuned a chymorth ar-lein - Togetherall

Sgwrs â'r gymuned yn ddienw, asesiad a modiwlau hyfforddiant er mwyn eich helpu i ymdopi - ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. https://togetherall.com/

Cyflyrau'r GIG Ar-lein - deg awgrym

Deg ffordd o reoli straen https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/reduce-stress/

Student Minds ar-lein - cymorth gyda straen arholiadau

Cymorth a chyngor ar sut i reoli pryder a phwysau'r cyfnod arholiadau a all arwain at straen https://www.studentminds.org.uk/examstress.html

SgiliauAber

Gwybodaeth am y ffordd orau o baratoi ar gyfer arholiadau er mwyn lleihau unrhyw bryder a straen https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/exams/

Cwrs Rheoli Straen Dr Jim White

https://stresscontrol.org/

Mae Stress Control yn gwrs pedair sesiwn. I bobl sydd eisiau dysgu gwell ffyrdd o ymdopi â'u problemau, megis iselder, gorbryder, panig, diffyg cwsg a diffyg hunanhyder. Mae'r cyrsiau rheoli straen ar gael ar-lein ac maent yn darparu amrywiaeth o adnoddau megis technegau ymlacio ac ymwybyddiaeth fyfyriol er mwyn helpu i reoli straen, yn ogystal â modiwlau'r cwrs.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl lleol Gofal Sylfaenol y GIG:

Gwybodaeth hunangymorth ddefnyddiol ar-lein ynglŷn â straen a sut i fanteisio ar y gwasanaethau http://www.iawn.wales.nhs.uk/mental-health-self-help-resources

Llinell ffôn neu e-bost am ddim bob awr o'r wythnos - Y Samariaid

Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bost https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Gall ein hymarferwyr cymwysedig eich helpu i reoli straen a'r effaith bosib ar eich bywyd academaidd. Gallwch gofrestru a'n gwasanaeth ar-lein.