Hiraeth

Gall bod oddi cartref arwain at deimladau anodd a allai effeithio ar eich bywyd bob dydd. Dysgwch sut i reoli hiraeth a sut i setlo i fywyd yn y brifysgol trwy ddilyn y dolenni cyswllt isod a thrwy siarad ag eraill o'ch cwmpas.

Cymuned a chymorth ar-lein - Togetherall

Sgwrs â'r gymuned yn ddienw, asesiad a modiwlau hyfforddiant er mwyn eich helpu i ymdopi - ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. https://togetherall.com/

Student Minds ar-lein

Myfyrwyr yn trafod ymdopi â hiraeth https://www.studentmindsblog.co.uk/2018/01/homeless-homesickness.html

Mind Over Mood – Dr Christine Padesky

Gwybodaeth ar-lein ynglŷn â rheoli eich tymer gan yr arbenigwr byd-eang mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol, Christine Padesky https://www.mindovermood.com/

Llinell ffôn neu e-bost am ddim bob awr o'r wythnos - Y Samariaid

Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bost https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Mae ein hymarferwyr cymwysedig wedi paratoi fideos canllaw byr er mwyn eich helpu i ymdopi â bywyd yn y brifysgol. Neu efallai yr hoffech chi siarad ag ymarferydd ynglŷn â'r ffordd y mae hyn yn effeithio ar eich bywyd academaidd. Gallwch gofrestru â'n gwasanaeth ar-lein yma.