Profedigaeth

Mae galar a cholled yn brosesau naturiol sy'n digwydd yn sgil profedigaeth. Mae amrywiaeth o gymorth ar gael i'ch helpu i ymdopi ac mae'n syniad da siarad gydag unigolion yr ydych yn ymddiried ynddynt ynglŷn â'ch teimladau, dysgu am beth all helpu gan amrywiol blatfformau neu ystyried sesiynau cwnsela gyda gweithwyr proffesiynol hyfforddedig os na fyddwch yn dod i ben â phethau. Gall y rhestr isod eich helpu i gael y cymorth cywir.

Cymuned a chymorth ar-lein - Togetherall

Sgwrs â'r gymuned yn ddienw, asesiad a modiwlau hyfforddiant er mwyn eich helpu i ymdopi - ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. https://togetherall.com/

Canllaw galar a phrofedigaeth Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Canllaw Galar a Phrofedigaeth

Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â galar/profedigaeth

Gwasanaethau Iechyd Meddwl lleol Gofal Sylfaenol y GIG:

Gwybodaeth hunangymorth ddefnyddiol ar-lein a sut i fanteisio ar y gwasanaethau http://www.iawn.wales.nhs.uk/mental-health-self-help-resources

Rhestr Cyflyrau'r GIG - Galar a Phrofedigaeth

Gwybodaeth ynglŷn â'r ffordd orau o reoli galar a phrofedigaeth gyda gwybodaeth i'ch cynorthwyo

https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/coping-with-bereavement/

MIND

Gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â'r ffordd orau o ymdopi gyda'r sefyllfa hon

https://www.mind.org.uk/information-support/your-stories/learning-to-cope-after-losing-a-friend-to-suicide/#.XYyHCfZFwy8

TED TALK

Ond nid dyna ei diwedd hi, ychwaith. Mae'n hanfodol eich bod yn cynnig eich sylwadau wrth i'r wythnosau a'r misoedd fynd rhagddynt.

Llinell ffôn neu e-bost am ddim, bob awr o'r wythnos - Y Samariaid

Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bost https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

CRUSE Gwasanaeth Cwnsela Arbenigol Lleol

Sefydliad lleol sy'n arbenigo mewn rhoi cymorth ar ôl profedigaeth https://www.cruse.org.uk/west-wales-area Llinell Gymorth Gorllewin Cymru: 0800 288 4700 E-bost: westwales@cruse.org.uk

Marie Curie

Gwybodaeth ymarferol a cymorth emosiynol mewn profedigaeth gan salwch terfynol. https://www.mariecurie.org.uk/ 

Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Gall ein hymarferwyr cymwysedig eich helpu i gael y cymorth cywir, gan fod myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn cael manteisio ar wasanaeth cwnsela yn rhad ac am ddim er mwyn eu cynorthwyo gyda gwahanol broblemau a allai fod ganddynt tu allan i'w bywyd academaidd. Gall ein hymarferwyr cymwysedig eich helpu gydag effaith unrhyw brofedigaeth ar eich bywyd academaidd. Gallwch gofrestru gyda'n gwasanaeth ar-lein.