Urddas a Pharch Myfyrwyr
Bwriad Prifysgol Aberystwyth ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yw darparu amgylchedd gwaith a dysgu sy’n cyfoethogi bywydau, lle mae pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch. Ni fydd y Brifysgol na'r Undeb yn goddef bwlio nac aflonyddu nac unrhyw fath o ymddygiad sy’n groes i urddas a pharch gan ei myfyrwyr. Ni ddylai myfyrwyr, staff ac aelodau’r cyhoedd gael eu trin yn anffafriol na dioddef bwlio neu aflonyddu oherwydd hil, lliw croen, tarddiad ethnig neu genedlaethol, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred (neu dim crefydd neu gred), mamolaeth/beichiogrwydd, hunaniaeth rhyw neu statws rhyw, oed, aelodaeth undeb llafur, anabledd, cefndir troseddol neu unrhyw nodwedd warchodedig arall.