Blwyddyn Mewn Gwaith

Mae cymryd blwyddyn allan i weithio yn ystod eich cwrs gradd yn brofiad gwerthfawr sy'n talu ar ei ganfed, yn bersonol a phroffesiynol. Mae'n ffordd ragorol o ddatblygu sgiliau, hyder a chymhelliant, a fydd yn eich cynorthwyo i gyflawni ar lefel uwch wrth ddod yn ôl i flwyddyn olaf eich astudiaethau, a phan fyddwch wedi cwblhau eich gradd ac yn wynebu byd gwaith.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gennym ddau ddewis ar eich cyfer:

  1. Mae rhai adrannau academaidd yn cynnig cynlluniau gradd 4 blynedd integredig sy'n cynnwys 'Blwyddyn mewn Diwydiant' yn y drydedd flwyddyn (cyfeirir ati weithiau yn Flwyddyn Ddiwydiannol, neu 'ryng-gwrs'); os ydych yn astudio ar raglen radd integredig, ewch i drafod â'ch tiwtor personol a/neu staff eich adran academaidd ynglŷn â threfniadau'r Flwyddyn mewn Diwydiant.
  2. Gall myfyrwyr nad ydynt yn astudio ar gynllun gradd integredig, droi at y Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG). Y Gwasanaeth Gyrfaoedd sy'n gweinyddu'r cynllun, a bu'n rhedeg yn llwyddiannus ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 40 mlynedd a mwy, gan roi cyfle i fyfyrwyr sy'n astudio unrhyw ddisgyblaeth i gael swydd gyflogedig rhwng ail a thrydedd flwyddyn eu hastudiaethau israddedig.

Beth yw manteision Blwyddyn mewn Gwaith?

Fel y gwyddoch, mae'r farchnad swyddi graddedigion yn eithriadol gystadleuol. Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion a chanddyn nhw gymwysterau academaidd da ond hefyd ymwybyddiaeth fasnachol a doniau eraill trosglwyddiadau a fydd yn gymorth iddynt gyfrannu'n gyflym i'r gweithle. Heb os, cael profiad o waith yw un o'r dulliau gorau i ddatblygu'r galluoedd hyn a'ch gwneud eich hun yn gyflogadwy.

Ond, yn ogystal â'r sgiliau byd gwaith, mae blwyddyn allan yn cyfrannu llawer at eich datblygiad personol gan arwain at, er enghraifft, gynyddu eich hyder, eich hunanymwybyddiaeth, eich gwytnwch a'ch sgiliau rheoli gyrfa. Gall hefyd roi cyfle:

  • i fod yn rhan o'r byd masnachol a magu dealltwriaeth ddyfnach o'r ffordd y mae gwahanol sectorau, sefydliadau, timau ac unigolion yn gweithio
  • i roi prawf ar syniadau ynglŷn â gyrfa a chadarnhau a ydynt yn addas i chi
  • i ennill cyflog
  • i gael hyfforddiant, a allai gyfrif tuag at gymhwyster proffesiynol
  • i ddysgu iaith newydd
  • i brofi diwylliant gwlad arall os penderfynwch weithio'r tu allan i Brydain
  • i wneud ffrindiau newydd
  • i wneud cysylltiadau proffesiynol da a datblygu rhwydweithiau newydd a fydd yn ddefnyddiol wrth i'ch gyrfa ddatblygu
  • i brofi'ch gwerth i'r cyflogwr - a allai arwain at gynnig o swydd raddedig!

Mae blwyddyn allan mewn swydd yn cael effaith gadarnhaol ar waith academaidd hefyd, trwy roi cyfle ichi:

  • gymhwyso'r hyn a ddysgoch o astudiaethau academaidd blynyddoedd 1 a 2 i sefyllfaoedd gwirioneddol yn y gweithle
  • dechrau ar waith ymchwil traethawd hir y flwyddyn derfynol
  • gwella marciau arholiadau'r flwyddyn derfynol trwy wneud defnydd o'r wybodaeth a'r sgiliau ychwanegol a gafwyd yn y gweithle, e.e. rheoli'ch amser, gwneud cyflwyniadau, gweithio gydag eraill.

Beth nesaf?

Cofiwch, os ydych chi'n astudio ar raglen integredig eisoes, y peth cyntaf i'w wneud yw cael sgwrs â staff eich adran am y cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant.

Ond, os yw Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG) y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn ymddangos yn ddewis da ichi, darllenwchY Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG) Ffeithlen sy'n rhoi gwybodaeth fanwl am y cynllun a'r hyn sydd angen i chi ei wneud nesaf.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych!