Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?

Bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys profiad o feddwl yn greadigol, rhesymu beirniadol a dadansoddi, cynllunio ac ymchwilio i waith ysgrifenedig a rheoli amser, sydd oll yn sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth, ac eto nid yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o hyn, neu cânt eu dylanwadu gan ffeithiau di-sail ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.

Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?

Mae cyflogwyr o bob sector yn gwerthfawrogi graddedigion Saesneg am eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar. Mae graddedigion Saesneg yn dod o hyd i swyddi mewn rolau amrywiol gan gynnwys newyddiaduraeth, cyhoeddi, marchnata a chyllid.

Mae gwefan TARGETjobs hefyd yn cynnwys adran ar yrfaoedd posibl ar gyfer gwahanol raddau sy’n werth edrych arni.

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodedig sy’n gweithio’n agos â’ch adran i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth. Cynhelir gweithdai a digwyddiadau gyrfaoedd yn eich adran i hyrwyddo cyfleodd profiad gwaith, eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, ac sydd hefyd yn gyfle i rwydweithio gyda phobl broffesiynol sy’n gweithio ym myd diwydiant. Cyflwynir rhaglen addysg gyrfaoedd yn ganolog hefyd, a gall uwchraddedigion fanteisio ar y rhaglen Hyfforddi Sgiliau Uwchraddedig. Mae croeso i chi alw heibio i’r Gwasanaeth Gyrfaoedd unrhyw bryd i gael cymorth neu wybodaeth bellach.

Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion?

Ni ellir gorbwysleisio gwerth profiad gwaith a thra bod pob profiad gwaith yn werthfawr, gall profiad gwaith wedi’i deilwra fod yn fanteisiol iawn i chi. Trwy fynd a’ch profiad gwaith gam ymhellach a chael profiad perthnasol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol, byddwch yn datblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr y sector hwnnw’n chwilio amdanynt. Hefyd, byddwch yn dangos brwdfrydedd, ymrwymiad a diddordeb mawr  yn y maes. Mae’r dolenni isod yn fan cychwyn pan fyddwch yn chwilio am gyfleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch pwnc. Cofiwch fod cymorth ar gael gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi a phrofiad gwaith.

Mewn rhai achosion, mae’n bosib y cewch fanylion am leoliadau profiad gwaith, ond yn fwy aml, bydd rhaid i chi ddefnyddio’r wybodaeth i roi syniadau i chi am geisiadau ar hap. Er enghraifft, cewch swyddi gwag o bosib sy’n berthnasol i’ch pwnc ond sydd ddim yn lleoliadau gwaith; ond, os hoffech gael profiad yn y maes hwnnw, fe allech anfon cais ar hap at y cyflogwr i weld a oes posibilrwydd o leoliad gwaith gyda nhw. Gall yr ymgynghorwyr gyrfaoedd eich helpu gyda’r broses hon.

Cofiwch fod llawer o gyflogwyr, yn enwedig y cwmnïau mwy o faint, yn cynnwys manylion lleoliadau gwaith ar eu gwefannau. Os hoffech weithio i sefydliadau penodol, edrychwch ar yr adrannau Gyrfaoedd neu Recriwtio ar eu  gwefannau i weld beth sydd ar gael.

Yn olaf, cofiwch y bydd llawer o’r dolenni isod yr un mor ddefnyddiol i chi pan fyddwch yn chwilio am swyddi i raddedigion.

DU

Cymdeithasau a chyrff proffesiynol

Mae’r cyrff hyn yn hyrwyddo buddiannau pobl sy’n gweithio mewn proffesiynau penodol. Mae rhai yn cynnwys rhestrau o gyflogwyr sy’n aelod o’r gymdeithas dan sylw, ac mae’n bosib y byddant yn hysbysebu swyddi. Gall eraill fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer ceisiadau neu os ydych yn ystyried cyflwyno cais ar hap.

Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?

Mae graddedigion Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn mynd ymlaen i gael amrywiaeth eang o swyddi gan fod cyflogwyr yn gosod bri mawr ar eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar. Mae’r swyddi yn cynnwys newyddiadurwyr cylchgronau a phapurau newydd, gweithredwr marchnata, ysgrifennwr a chynorthwyydd golygyddol.

Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan raddedigion ac uwchraddedigion Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Aberystwyth:
  • Gweinyddydd 
  • Golygydd Ar-lein Cynorthwyol
  • Cynorthwyydd Archwiliadau
  • Hyfforddai BBC
  • Llyfrwerthwr
  • Cynorthwyydd Cymorth Busnes 
  • Gweithiwr Elusennol
  • Ysgrifennwr Copi
  • Dadansoddwr Data
  • Golygydd ac Ymchwilydd 
  • Swyddog Addysg
  • Athro Saesneg fel Iaith Estron (EFL) 
  • Athro Saesneg
  • Cydlynydd Digwyddiadau 
  • Marchnatwr Maes 
  • Ysgrifennwr Ysgrifau Nodwedd Llawrydd 
  • Datblygwr Gwefannau Llawrydd 
  • Ysgrifennwr Copi Graddedig 
  • Cynorthwyydd Cymorth Dysgu 
  • Darlithydd 
  • Cynorthwyydd Llyfrgell 
  • Rheolwr Marchnata
  • Rheolwr Swyddfa 
  • Cynorthwyydd Paragyfreithiol
  • Cynorthwyydd Digwyddiadau Cysylltiadau Cyhoeddus 
  • Rheolwr Cynhyrchu 
  • Rheolwr Systemau Ansawdd
  • Cynghorwr Cadwrfa 
  • Cydlynydd Ymchwil
  • Athro 
  • Cydlynydd Hyfforddi
  • Cynorthwyydd Cyfieithu
  • Dylunydd Gwefannau
  • Ysgrifennwr a Golygydd
Enghreifftiau o’r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Aberystwyth i weithio iddynt:
  • 21st Century Fox
  • Prifysgol Aberystwyth  
  • Admiral Insurance
  • Artifax Software 
  • Barclays
  • BBC
  • Beswick Group 
  • Prifysgol Birmingham  
  • Blaze Publishing 
  • Bookends
  • Capita 
  • Centaur (Design Week Magazine)
  • City and Style Magazine
  • Theatr Clwyd
  • Cyfanfyd 
  • Explore Learning 
  • Exposure Public Relations 
  • First Personnel
  • Garnett-Dickinson Publishing 
  • Harlequin Mills and Boon/Mira Ltd 
  • Hearts of England Foundation Trust 
  • Jessica Kingsley Publishers
  • Laura Ashley
  • Heddlu Metropolitanaidd
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • MS Publications 
  • Gwasg Prifysgol Rhydychen
  • Cymdeithas y Wasg
  • PricewaterhouseCoopers
  • Quartet Books
  • Royal Bank of Scotland 
  • Sainsbury's 
  • Touch Productions 
  • Prifysgol Maryland 
  • Vogue 
  • Waterstones