Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Beth fydda i’n ennill o’m pwnc?

Yn ogystal â’ch sgiliau sy’n seiliedig ar ymarfer, a’r wybodaeth y byddwch yn ei dysgu, bydd eich gradd yn darparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.   Mae’r sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys datrys problemau, hunan-reoli, cyfathrebu a gwaith tîm. Mae eich sgiliau trosglwyddadwy a’r lefel o gyrhaeddiad deallusol a enilloch drwy astudio eich pwnc yn golygu y bydd gennych lawer o wahanol ddewisiadau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Mae canran uchel o’r holl swyddi gwag lefel gradd yn agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth, ac eto nid yw llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o hyn, neu cânt eu dylanwadu gan ffeithiau di-sail ynglŷn â’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.

Beth alla i ei wneud gyda’m pwnc?

Mae eich gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o lwybrau gyrfaol.

Mae nifer fawr o bosibiliadau’n agored i raddedigion, mwy o bosibl nag a sylweddolwch ar y cychwyn. Weithiau, y gwaith anoddaf sy’n wynebu myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf a graddedigion newydd yw penderfynu sut i ddewis o blith y dewisiadau niferus sydd ar gael i chi. Ceir swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phynciau gradd, swyddi lle gall pynciau penodol fod yn ddefnyddiol a hefyd ystod gyflawn o swyddi sy’n agored i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth.

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodedig sy’n gweithio’n agos â’ch adran i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth. Cynhelir gweithdai a digwyddiadau gyrfaoedd yn eich adran i hyrwyddo cyfleoedd profiad gwaith, eich helpu i gynllunio’ch gyrfa, ac sydd hefyd yn gyfle i rwydweithio gyda phobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Cyflwynir rhaglen addysg gyrfaoedd yn ganolog hefyd, a gall uwchraddedigion fanteisio ar y rhaglen Hyfforddi Sgiliau Uwchraddedig. Mae croeso i chi alw heibio’r Gwasanaeth Gyrfaoedd unrhyw bryd i gael cymorth neu wybodaeth bellach.

Ble ydw i’n dechrau chwilio am brofiad gwaith a swyddi i raddedigion? – Adnoddau defnyddiol

Mae’r dolenni isod yn fan cychwyn i chi pan fyddwch yn chwilio am gyfleoedd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch pwnc; mae mwy o adnoddau cyffredinol ar gael yn ein hadran profiad gwaith. Cofiwch fod cymorth ar gael oddi wrth y Gwasanaeth Gyrfaoedd pan fyddwch yn gwneud cais am swyddi a phrofiad gwaith.

 

DU

Tramor

Cymdeithasau a chyrff proffesiynol

Mae'r cyrff hyn yn hyrwyddo diddordebau pobl sy'n gweithio mewn galwedigaethau penodol. Mae gan rai ohonynt restrau o gyflogwyr sy'n aelodau o'r gymdeithas ac a allai hysbysebu swyddi tra bod eraill yn ffynonellau defnyddiol o wybodaeth wrth ymchwilio i gyflogwyr ar gyfer gwneud ceisiadau neu ystyried ceisiadau ar hap.

Beth mae graddedigion Aber yn ei wneud?

Dyma rai enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan ein Graddedigion:

  • Asiant Gwleidyddol Cynorthwyol
  • Athro/Athrawes
  • Athro/Athrawes Saesneg
  • Cydlynydd Ymchwil y Farchnad
  • Cyhoeddwr Cylchgrawn
  • Cynghorydd Bwrdeisdref
  • Cynlluniwr Traffig
  • Cynorthwy-ydd Aelod y Cynulliad
  • Cynorthwy-ydd Ymgyrchoedd
  • Dadansoddwr Cyswllt (Mewnfudiad)
  • Dadansoddwr Gwleidyddol
  • Darlithydd
  • Darlithydd Coleg
  • Golygydd ac Ymchwilydd
  • Graddedig MIS dan Hyfforddiant
  • Gwas Sifil
  • Gweinyddwr Busnes
  • Gweinyddwr Datblygiad Canolfan
  • Gweinyddwr Etholaeth
  • Gweithiwr Achos Seneddol
  • Gweithiwr All-Ymestyn Gwleidyddol
  • Gweithiwr Graddedig dan Hyfforddiant gyda'r Blaid Lafur
  • Gwerthwr Hen Bethau
  • Is-Swyddog Mewnfudo
  • Llywydd Myfyrwyr
  • Pennaeth Gwella a Llywodraethu
  • Rheolwr Allymestyn
  • Rheolwr dan Hyfforddiant
  • Swyddog Adolygu Strategaeth Gymunedol
  • Swyddog Cadét
  • Swyddog Cyfathrebu
  • Swyddog Cynllunio mewn Argyfwng
  • Swyddog Cyswllt yn y Gymuned
  • Swyddog Marchnata Ewropeaidd
  • Swyddog Mewnfudo Ewropeaidd
  • Swyddog Polisi
  • Swyddog Rhyngwladol
  • Swyddog yn y Fyddin Brydeinig
  • Swyddog yn y Llynges Frenhinol
  • Trefnydd Etholaeth Wleidyddol
  • Uwch-Gynghorydd Polisi a Chynllunio
  • Ymchwilydd Cudd-Wybodaeth
  • Ymchwilydd Gwleidyddol
  • Ymchwilydd Materion Cyhoeddus
  • Ymchwilydd Seneddol
  • Ymgynghorydd Amddiffyn
  • Ymgynghorydd Marchnata
  • Ymgynghorydd Recriwtio
  • Ymgyrchydd/Awdur

Enghreifftiau o'r cyflogwyr yr aeth graddedigion ac uwchraddedigion gwleidyddiaeth ryngwladol Aberystwyth i weithio iddynt:

  • Adran Drafnidiaeth
  • Adran Gwaith a Phensiynau
  • Amnesty International
  • Amryw Gynghorau Sir
  • Amryw Sefydliadau Addysg Uwch
  • BBC
  • Byddin Brydeinig EM
  • Canolfan Astudiaethau Ewropeaidd
  • Cyfanfyd
  • Cyllid a Thollau EM
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • East Coast Economic Region Development Council
  • Federation of German Security and Defence Industries
  • Food for Thought
  • G.A. Potter
  • Grŵp Bancio Lloyds
  • Heddlu Caint
  • Heddlu Northampton
  • International Institute of Humanitarian Law
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Llynges Frenhinol
  • Llywodraeth Cymru
  • Mildmay International
  • Ministry of the Interior of the Czech Republic
  • Plaid Geidwadol
  • Plaid Lafur
  • Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Politics plc
  • Prospects
  • Royal United Services Institute (RUSI)
  • Secretariat-General, Benelux Union
  • Sefydliad Ymchwil Heddwch, Frankfurt
  • Senedd Ewrop
  • Siambr Fasnach Black Country
  • Siambr Fasnach Prydain-Gwlad Pwyl
  • Slovak Atlantic Commission
  • Swyddfa Gartref
  • Swyddfa'r Post Cyf
  • SyQic
  • Tŷ Cyffredin
  • Tŷ'r Arglwyddi
  • United Nations Institute for Disarmament Research
  • Westminster Forum Projects
  • Worcester Research Ltd