Ymchwilwyr Uwchraddedig

Weithdai datblygu gyrfa

Mae ystod o weithdai datblygu gyrfa ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer doethuriaeth yn rhedeg yn yr ail tymor. Ymhlith y rhain mae:

  • Gyrfaoedd y tu allan i’r byd academaidd
  • Cynllunio eich gyrfa academaidd
  • CVs anacademaidd/academaidd
  • Rhwydweithio ac amlygu eich proffil ar lein
  • Cyfweliadau llwyddiannus
  • Eich PhD y tu allan i’r byd academaidd – celfyddydau a dyniaethau

Archebwch le drwy ddolen gyswllt Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr Ysgol y Graddedigion yma: https://stafftraining.aber.ac.uk/pg/list_courses.php

Datblygiad proffesiynol

Mae’r Brifysgol wedi tanysgrifio i’r Cynllunydd Datblygu Ymchwil Vitae. Mae ganddo gwrs ar-lein sy’n trafod holl gamau’r drefn cynllunio datblygiad proffesiynol (CDP).

Mae CDP yn elfen allweddol o gynnydd gyrfa a chynlluniwyd a datblygu’r cwrs hwn gan ddefnyddio adnoddau penodol ar gyfer ymchwilwyr sy’n dymuno gwneud y gorau o’u cyfleoedd, a chreu cyfleoedd newydd!

Gallwch gael mynediad at y cwrs CDP ar-lein i ymchwilwyr drwy Vitae.

Sesiynau ymgynghori gyrfaoedd un-i-un ar gyfer uwchraddedigion

Cynhelir sesiynau ymgynghori gyrfaoedd ar gyfer uwchraddedigion bob bore Mawrth (yn ystod y tymor a’r haf) yn y Ganolfan Uwchraddedig, Ysgol y Graddedigion.

Gallwch archebu lle yma:  https://stafftraining.aber.ac.uk/pg/list_courses.php

Fel arall, gallech ddefnyddio ein gwasanaeth ‘galw heibio’ dyddiol a gynigir i bawb. Dewch i Llyfrgell Hugh Owen, Llun i Gwener yn ystod y tymor, 9.30-12yp. 

Neu dewch i’r Swyddfa Gyrfaoedd, ar llawr waelod y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr. Cysylltwch a ni.

Gwybodaeth

  • Mae’r eLyfr  hwn yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am gynllunio gyrfa i fyfyrwyr PhD.
  • Mae Beyond the PhD yn cynnig golwg bersonol a phroffesiynol sy’n procio’r meddwl am fywyd ar ôl PhD i fyfyrwyr y celfyddydau a’r dyniaethau
  • Mae’r adran adnoddau am ddim ar jobs.ac.uk yn cynnwys eLyfrau eraill, pecynnau cymorth a fideos gyrfaoedd i’ch helpu os ydych yn chwilio am swydd newydd ar hyn o bryd neu os oes angen cyngor arnoch wrth gynllunio a datblygu eich gyrfa.
  • Researchers in Schools (RIS),  rhaglen hyfforddi athrawon sy’n arbennig ar gyfer pobl sydd wedi cwblhau, neu wrthi’n cwblhau, doethuriaeth yn eu maes.
  • Bydd adran gyrfaoedd gwefan Vitae yn eich helpu i ystyried eich dewisiadau o ran gyrfa, llywio drwy’r prosesau recriwtio a rheoli eich gyrfa yn y tymor hir.
  • Mae Vitae yn cynnig ystod o adnoddau a gwybodaeth ar gyfer eich Datblygiad Proffesiynol.
  • What do Researchers Do? Cyrchfannau cyntaf graddedigion doethurol yn ôl pwnc.

Cysylltiadau Defnyddiol

  • Euraxess – menter Ewrop gyfan yn darparu mynediad at swyddi, cyllid a chyngor ynglŷn ag ymchwil.
  • Find-a-Post-Doc -  hysbysfwrdd swyddi ar gyfer cyfleoedd yn y DU ac yn fyd-eang.
  • PhD Jobs – hysbysfwrdd swyddi gan jobs.ac.uk yn hysbysebu swyddi gwag i ymgeiswyr PhD.
  • Academic Jobs Vacancies - erthyglau ar jobs.ac.uk. Mae'r tudalen hefyd yn cynnwys linciau i erthyglau defnyddiol sy'n ymwneud a gyrfaoedd, wedi' ysgrifennu gan academyddion.
  • Research Gate - rhannwch eich ymchwil.
  • ABERcareers– Porth Gwasanaeth Gyrfaoedd, chwiliwch am swyddi a digwyddiadau.