Mentora 'Ffordd Hyn'

Beth yw cynllun Mentora 'Ffordd Hyn'?

Cynllun sy'n cael ei ddarparu trwy'r Gwasanaethau i Fyfyrwyr yw Mentora'r 'Ffordd Hyn', i fyfyrwyr sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol o bosibl gyda bywyd dydd i ddydd yn y Brifysgol.

Israddedigion ail, drydydd neu flwyddyn olaf, neu uwchraddedigion yw Mentoriaid Ffordd Hyn. Mae Mentoriaid y cynllun yn cael eu hyfforddi gan Gwasanethau i Fyfyrwyr ac mae pob un wedi bod yn lasfyfyriwr ei hun yn ddiweddar! Mae'r mentoriaid yn awyddus i wrando ac i'ch arwain trwy ba drafferthion bynnag rydych chi'n eu cael mewn ffordd gefnogol a chyfeillgar heb farnu dim. Gall y cymorth gynnwys : -

  • Ymgyfarwyddo â bywyd Prifysgol: er enghraifft trwy gyfeirio myfyrwyr at wasanaethau eraill yn y Brifysgol a gweithgareddau allgyrsiol ac yn y blaen
  • Cyflawni potensial: er enghraifft, trwy roi cyngor ar reoli'ch amser a datblygu sgiliau trefnu
  • Cynllunio am y dyfodol: trwy gael profiad gwaith a chynorthwyo i baratoi am arholiadau.

Mae hefyd gan Fentoriaid Ffordd Hyn wybodaeth dda am wasanaethau cymorth y Brifysgol a gallant gynorthwyo myfyrwyr i fanteisio ar y gwasanaethau hyn, er enghraifft, yng nghyswllt Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), Cymorth i Astudio, gwasanaethau Lles y Myfyrwyr (gan gynnwys Ymarferydd Iechyd Meddwl ac Ymarferydd Cwnsela) a Chyllid Myfyrwyr.

Mae Mentora Ffordd Hyn yn breifat, yn gyfrinachol ac yn hollol anfeirniadol.

'Mae 'Ffordd Hyn' yn hanfodol i las fyfyrwyr! Beth bynnag yw'r mater neu'r pryder - bach neu fawr - maen nhw yno i gynorthwyo.' - Myfyriwr a gafodd ei Fentora ar y Cynllun

Er mai at fyfyrwyr newydd mae'r cynllun wedi'i dargedu’n bennaf, i'w cynorthwyo i ymgartrefu ac ymgyfarwyddo â bywyd prifysgol, mae'n agored i bob myfyriwr sydd eisiau gwneud cais. Awgrymwn ichi fynd i dudalen y Mentoreion i weld a allwn ni fod o gymorth ichi.

'Gyda help fy Mentor y dysgais i fy ffordd o gwmpas prifysgol Aberystwyth. Gan fy mod yn fyfyriwr ar gynllun cyfnewid ac ar flwyddyn olaf fy nghwrs gradd, roedd ychydig yn ddychrynllyd i gyrraedd prifysgol hollol ddieithr, ac roedd yn galonogol gwybod fod 'na rywun y gallwn i droi ato am gymorth.' - Myfyriwr a gafodd ei Fentora ar y Cynllun

I gael rhagor o wybodaeth am effaith Cynllun Mentora 'Ffordd Hyn' edrychwch ar astudiaeth gyllidwyd gan y Gronfa Gwella Dysgu ac Addysgu (LTEF) 

Cwestiynau Cyffredin am Fentora Ffordd Hyn

Cwestiynau Cyffredin am Fentoriaid Ffordd Hyn

Os cawsoch eich ysbrydoli a'ch bod yn addas yn ôl y meini prawf uchod, gallwch ddarllen ynglŷn â gwneud cais ar yr adnod Mentoriaid isod.


Mentor 'Ffordd Hyn' Panna Karlinger (Myfyriwr-Fentor y Flwyddyn)

Gall mentora wneud gwahaniaeth go iawn ac mae llawer o Fentoreion wedi elwa o gymorth gan eu cymheiriaid. Mae UMAber nawr yn cynnwys gwobr Myfyriwr-Fentor y Flwyddyn yn y Gwobrau Staff a Myfyrwyr. 

Ochr yn ochr â chynllun 'Ffordd Hyn' mae gan yr adrannau hefyd gynlluniau Mentora gan Gymheiriaid i roi cyngor adrannol wedi'i dargedu'n benodol.

Mentoreion

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y cynllun

Os gofynnwch am Fentor 'Ffordd Hyn' bydd myfyriwr israddedigion (ail, trydydd, blwyddyn olaf) neu fyfyriwr graddedig sydd wedi profi llawer o'r hyn sy'n eich wynebu chi yn cael ei neilltuo ar eich cyfer. Bydd y Mentor yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i drafod y Cynllun ac unrhyw drafferthion, gyda golwg ar drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb pe byddech chi'n hoffi hynny.

Beth yw Mentor?

  • Ffynhonnell fwy profiadol o wybodaeth
  • Cyswllt â gwasanaethau eraill PA
  • Arwyddbost i gyfeirio at adnoddau allanol
  • Rhywun i siarad yn gyfrinachol ag ef neu â hi

Mae gan y Mentoriaid agwedd hyblyg ond mae'n bwysig nodi nad ydynt:

  • Yn ymgynghorwyr hyfforddedig
  • Yn diwtoriaid personol
  • Yn weithwyr meddygol proffesiynol
  • Yn ffynhonnell cymorth 24/7

'Bu'r cymorth ges i gan fy mentor yn amhrisiadwy. Mae'r cyngor ynglŷn â gyda rhannau anoddaf y cwrs wedi fy helpu i ddeall y dulliau mewn ffordd symlach' - Myfyriwr a gafodd ei Fentora ar y Cynllun

A all Mentora'r 'Ffordd Hyn' fod o gymorth i fi?

Edrychwch ar Siart Llif Mentora 'Ffordd Hyn' i weld a allai'r cynllun eich helpu chi

Gwneud cais am Fentor

I wneud cais am Fentor llenwch y ffurflen gais neu cysylltwch â 'Ffordd Hyn'

Mentoreion cyfredol

I'n Mentoreion cyfredol, gobeithio bod popeth yn gweithio’n hwylus ichi ac rydyn ni wastad yn ddiolchgar am unrhyw adborth fel y gallwn weithio'n gyson i wella'r cynllun.

Hefyd, mae croeso ichi ofyn unrhyw beth i ni yn uniongyrchol, beth bynnag yw'r mater.

Mentoriaid

Pam bod yn fentor?

Er y gall manteision y cynllun i'r rhai sy'n cael eu mentora fod yn amlwg, mae nifer o fanteision hefyd i fod yn Fentor ar y Cynllun. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gwneud eich hun yn gyflogadwy: ffordd dda o ennill ychydig o arian a rhoi hwb i'ch CV!
  • Datblygu a gwella eich sgiliau: gan gynnwys cyfathrebu, gwrando gweithredol, trefnu a rheoli amser
  • Cael hyfforddiant ar gyfer arferion craidd mentora
  • Mae'n gyfle ardderchog i rannu eich profiadau a chynorthwyo myfyrwyr eraill!

'Bod yn fentor fu un o brofiadau mwyaf gwerth chweil fy mywyd. Trwy gynllun 'Ffordd Hyn', rydw i wedi cael cyfle i gynorthwyo myfyrwyr i gyflawni eu haddewid, a bydd yr hyfforddiant a'r sgiliau a ges i drwy'r rhaglen yn rhai y gallaf eu defnyddio gweddill fy oes' - Mentor 'Ffordd Hyn'

Pwy ddylai fod yn fentor?

Bydd gan unrhyw fyfyriwr israddedig yn y drydedd flwyddyn neu'r flwyddyn olaf neu fyfyriwr uwchraddedig y profiad a'r ddealltwriaeth angenrheidiol i fod yn Fentor ar y Cynllun. Ymhlith y sgiliau, y nodweddion a'r wybodaeth yr ydyn ni'n chwilio amdanynt mae:

  • Gwybodaeth drwyadl am drefn gwasanaethau a chymdeithasau Prifysgol Aberystwyth
  • Awydd i gynorthwyo myfyrwyr i osgoi agweddau negyddol bywyd prifysgol, a byddai profiad perthnasol yn yr ysgol, mewn clybiau, neu yn y Brifysgol yn ddefnyddiol, ond nid yw'n hanfodol
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd
  • Dawn i reoli amser a bod yn drefnus
  • Sgiliau gwrando a chyfathrebu (rhoddir hyfforddiant i wella'r rhain)
  • Unrhyw brofiad perthnasol mewn meysydd allweddol, (e.e. astudio dramor, iechyd meddwl, a hunaniaeth o ran rhywioldeb)
  • Byddai cael siaradwyr Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol.

'Roedd gen i awydd gwirioneddol i gymryd rhan yn y cynllun mentora er mwyn gallu rhoi rhywbeth yn ôl i'r Brifysgol a'm helpodd i dyfu fel unigolyn. Mae wedi bod yn wych i ddatblygu fy sgiliau ac ar gyfer fy CV, ac fe gafodd ei grybwyll mewn sawl cyfweliad a gefais ers hynny.' - Mentor 'Ffordd Hyn'

Sut i fod yn fentor

Mae'r drefn ymgeisio i ddarpar Fentoriaid y cynllun yn dechrau adeg y Pasg (mis Mawrth neu fis Ebrill) bob blwyddyn. Ar yr adeg hon, croesewir ceisiadau gan unrhyw fyfyriwr a fydd naill ai yn y drydedd flwyddyn (y flwyddyn olaf) neu yn uwchraddedigion yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Hysbysebir ar Gwaith Aber:
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/aberworks/

Pwysig: bydd angen i fyfyrwyr gofrestru gyda Gwaith Aber er mwyn gallu cael yr wybodaeth.

Bydd manylion y drefn ymgeisio yn cael eu rhoi hefyd yn yr E-bost Wythnosol.

'Hoffwn ddiolch i chi hefyd am y cyfle i fod yn fentor 'Ffordd Hyn' eleni ac am yr holl gefnogaeth a roddoch i ni gyd. Rydw i wedi mwynhau'r profiad yn eithriadol ac wedi meithrin llawer o sgiliau newydd!' - Mentor 'Ffordd Hyn'

 

Gwybodaeth i fentoriaid cyfredol

Staff

Pwy allai elwa o'r cynllun?

Gallai unrhyw fyfyriwr sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol elwa o gael Mentor i siarad ag ef neu â hi, rhywun fydd yn deall pethau ar yr un lefel. Mae'r materion cyffredin yn cynnwys

  • Hiraeth
  • Llety
  • Arian a threfnu cyllideb
  • Rheoli amser
  • Troi at wasanaethau a chefnogaeth y Brifysgol
  • Adolygu
  • Arholiadau

Cyfeirio mentoreion posibl ymlaen

Gan eich bod yn aelod o staff y Brifysgol mae'n bosib y byddwch yn dod i gyswllt â myfyrwyr a allai, yn eich barn chi, elwa o gael cymorth a chefnogaeth myfyriwr sy'n un o Fentoriaid y cynllun. A fyddech cystal â chyfeirio'r myfyrwyr hyn at y dudalen hon a'u cynghori i ddefnyddio'r Siart Llif i weld a allai'r cynllun fod o gymorth iddyn nhw. Efallai y bydd y myfyrwyr hyn wedyn yn cysylltu'n uniongyrchol i wneud cais am Fentor trwy'r ffurflen gais ar-lein. Trefnir Mentor ar eu cyfer cyn gynted ag y bo modd.

Pwysig: os oes gennych unrhyw bryderon uniongyrchol, cysylltwch â'r Tîm Cymorth i Fyfyrwyr student-support@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621761 / 622087.

'Wrth siarad â'r mentor a sylweddoli ei fod wedi cael meddyliau tebyg i'r rhai a ges i, neu ei fod wedi gwneud rhai camgymeriadau tebyg, fe ges i'r hyder a'r cyfarwyddyd angenrheidiol i ddatblygu a gwella. Y ffaith syml mod i'n gallu siarad â rhywun oedd â'r profiad o wneud yr union beth ro’n i'n ei wneud, gyda'r un darlithwyr ac aseiniadau, roedd hyn yn gymaint o gymorth oherwydd ro’n i'n fwy tawel fy meddwl am yr hyn roedd angen i fi ei wneud i gael y graddau.' - Myfyriwr a gafodd ei Fentora

Mentoriaid posibl

Gwneir y Mentora gan ein myfyrwyr hynaf (trydedd flwyddyn/blwyddyn olaf, ac uwchraddedigion) sydd â theimladau cryf am Fentora ac sy'n ymrwymedig i gynorthwyo'u cymheiriaid. Os gwyddoch am fyfyrwyr a fyddai'n gwneud Mentoriaid da, cofiwch eu hannog i edrych ar y dudalen hon i gael mwy o wybodaeth neu gallant wneud cais yn uniongyrchol trwy 'Gwaith Aber' adeg y Pasg bob blwyddyn.

Bellach mae Gwobr 'Mentor y Flwyddyn' yn rhan o wobrau blynyddol staff a myfyrwyr UMAber, er mwyn cydnabod y gwaith Mentora pwysig a wneir gan ein myfyrwyr sy'n Fentoriaid yn y Brifysgol. Soniwch am y wobr hon wrth unrhyw fyfyrwyr y gwyddoch sy'n cael eu mentora er mwyn hyrwyddo gwerth mentora ymhellach ymhlith myfyrwyr PA.

Rhieni a gwarcheidwaid

Beth yw'r Cynllun?

Cynllun sy'n cael ei ddarparu trwy'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yw Mentora'r 'Ffordd Hyn', ar gyfer myfyrwyr sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol o bosibl gyda bywyd dydd i ddydd yn y Brifysgol.

Mae'r cynllun Mentora'n cynnig cyngor cyfeillgar, cyfrinachol, un-i-un am bob agwedd ar fywyd prifysgol, gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr.

'Roedd yn gymorth mawr iawn gallu rhannu pryderon trwy droi at rywun oedd wedi bod trwy'r broses o 'mlaen i.' - Myfyriwr a gafodd ei Fentora ar y Cynllun

At fyfyrwyr newydd mae'r cynllun wedi'i dargedu’n bennaf, i'w cynorthwyo i ymgartrefu ac ymgyfarwyddo â bywyd prifysgol. Ond mae'r cynllun yn agored i bob myfyriwr sy'n dymuno gwneud cais. Gallech felly awgrymu i'ch plentyn/dibynnydd gymryd golwg ar ein hadran ‘A all Mentora'r 'Ffordd Hyn' fod o gymorth i fi?’ ar y dudalen hon i weld a all y Cynllun Mentora fod o gymorth.

'Myfyriwr cynllun Erasmus o'r Eidal ydw i, ac fe ges i gymorth mawr gan y cynllun 'Ffordd Hyn' i ddangos sut mae asesiadau'n gweithio ym Mhrydain. Byddwn i wedi bod ar goll hebddo.' - Myfyriwr a gafodd ei Fentora

A chithau’n rhiant neu'n warcheidwad fe wyddom eich bod eisiau sicrhau'r cymorth a'r gefnogaeth orau i'ch plentyn. Os teimlwch y gallent elwa o’r Cynllun ond nad ydynt yn debygol o wneud cais uniongyrchol eu hunain, mae croeso ichi gysylltu â ni os oes gennych ymholiadau neu bryderon. Neu fel arall, gallech drafod hyn trwy gysylltu â thîm y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd, student-support@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621761 yn uniongyrchol.

Gallech hefyd edrych ar weddalennau'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr i weld a yw'r Brifysgol yn cynnig unrhyw beth arall a allai fod o fantais.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin