Gwasanaethau Hygyrchedd

Ein nod yw cynnig profiad o’r ansawdd uchaf i bob myfyriwr, ac i sicrhau bod ein cyfleusterau academaidd ar gael i bawb sy’n bodloni ein gofynion mynediad.

I fyfyrwyr sydd ag anabledd cyflwr iechyd hir-dymar neu anhawster dysgu penodol, rydym yn anelu at cwricwlwm cynhwysol sydd yn hygyrch i bawb, gallwn drefnu gwasanaethau cymryd nodiadau, llety wedi’i addasu, a defnydd o ardaloedd Cerdyn Gwyrdd sy’n darparu cyfrifiaduron, caledwedd arbennig, meddalwedd ychwanegol a modd i ddefnyddio gliniaduron. Gallwn gynnig cyngor ar ddefnyddio technoleg a threfniadau arbennig ar gyfer arholiadau fel y gallwch gyrraedd eich potensial a chael y canlyniadau da yr ydych yn eu haeddu.

Os hoffech wybodaeth bellach am ein darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ag anableddau neu os bydd gennych gwestiynau penodol, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at hygyrchedd@aber.ac.uk neu drwy ffonio 01970 621761

Ymgynghorwyr Hygyrchedd

Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae yna ymgynghorwyr yn arbennig i’ch cynorthwyo drwy broses cychwyn yn y Brifysgol neu adael y Brifysgol. Bydd ein Hymgynghorwyr Hygyrchedd yn:

  • Rhoi cyngor a gwybodaeth i ymgeiswyr a myfyrwyr (gan gynnwys y rhai sy’n gadael gofal, myfyrwyr anabl, myfyrwyr awtistig, rhai â cyflyrau iechyd hir-dymar a’r rhai a chanddynt wahaniaethau dysgu) am y ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer eich anghenion penodol yn y Brifysgol
  • Eich cynorthwyo drwy broses cael gafael ar y ddarpariaeth sydd ei hangen arnoch
  • Eich helpu i elwa’n llawn ar fynychu Dyddiau Agored neu Ymweld
  • Rhoi cyngor ichi ar broses gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl neu fathau eraill o gyllid sydd ar gael ar gyfer eich anghenion penodol
  • Eich helpu i wneud Trefniadau Unigol ar gyfer Arholiadau
  • Rhoi cyngor ichi ar y mathau o dystiolaeth fydd eu hangen arnoch er mwyn cael gafael ar ddarpariaeth benodol yn y Brifysgol
  • Trafod â chi i ba raddau yr ydych am i adrannau eraill yn y Brifysgol gael gwybod am eich anghenion penodol

Cysylltwch â’r Ddesg Croesawu Myfyrwyr i drefnu apwyntiad i weld Ymgynghorydd Hygyrchedd, neu ebostiwch hygyrchedd@aber.ac.uk 

Gwybodaeth i aseswyr allanol (PDF)