Campau ar y Campws

Cyflwyniad

Gweithgareddau a gemau chwaraeon hwyl yw Campau’r Campws i blant 8-14 mlwydd oed. Mae'r gwersylloedd yn lleoliad delfrydol i'ch plant dreulio amser yn ystod gwyliau'r ysgol i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phlant eraill, cael gwared â rhywfaint egni ac i gael llwyth o hwyl o dan oruchwyliaeth ddiogel ein staff cymwys.

Grwpiau

Mae'r plant yn cael eu rhannu mewn i grŵp yn ôl ei oedran/neu allu. Byddwn yn cymryd rhan mewn pump i chwe gweithgaredd pob dydd, sydd wedi'i ddewis i roi rhaglen gytbwys.

Amseroedd

Dydd Llun i ddydd Gwener 9yb-4yh (bydd yna 20 munud ar ddechrau a diwedd y dydd wedi’i ddyrannu i gofrestru a rhyddhau eich plant.

Bwyd

Bydd angen i bob plentyn ddod a chinio pecyn ei hun, gan gynnwys diod bob dydd. Rydyn yn darparu bisgedi a diod am yr egwyl fore a phrynhawn.

Beth Sydd Angen

Cinio, diod a thywel, gwisg chwaraeon sbâr, esgidiau chwaraeon a digon o egni!

Gweithgareddau

Mae'r cyfleusterau chwaraeon yn cynnwys dwy neuadd chwaraeon mawr, cae 3g, pwll nofio, tri chwrt sboncen a stiwdio ddawns. Mae'r holl gyfleusterau hyn ar Gampws Penglais. Trwy ddarparu rhaglen gytbwys gyda digon o amrywiaeth, rydym yn darparu ar gyfer ystod eang o alluoedd ac yn cynnwys y plant hynny sy'n frwd dros chwaraeon, a'r rhai sydd am gael hwyl wrth ddysgu sgiliau newydd. Mae Campau'r Campws yn wythnos ddibreswyl anghystadleuol sy'n cynnig rhywbeth i bawb.