Beth yw Mynediad Agored?

  • Mae llenyddiaeth Mynediad Agored yn lenyddiaeth ysgolheigaidd, wedi’i adolygu gan gymheiriaid, sydd ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim, ac yn rhydd oddi wrth y rhan fwyaf o’r cyfyngiadau hawlfraint a thrwyddedu.
  • Mae hyn yn golygu y gall unrhyw un yn y byd edrych ar y deunydd, a gall nifer y bobl sy’n darllen erthyglau Mynediad Agored fod yn llawer mwy na’r nifer ar gyfer deunydd lle mae’r testun llawn wedi’i gyfyngu i danysgrifwyr.
  • Nid yw Mynediad Agored yn effeithio ar adolygiadau gan gymheiriaid – Mae cadwrfeydd Mynediad Agored yn ategu, yn hytrach na chymryd lle, cyfnodolion.
  • Sail gyfreithiol Mynediad Agored yw naill ai caniatâd daliwr yr hawlfraint neu’r parth cyhoeddus - daliwr yr hawlfraint fel rheol.
  • Ceir diffiniadau pellach o Fynediad Agored yn yr adran Dolenni Defnyddiol. Mae menter Mynediad Agored Budapest yn cynnig diffiniad defnyddiol o Fynediad Agored.

Camsyniadau cyffredin ynglŷn a Mynediad Agored

1. Nid yw Cyfnodolion Mynediad Agored yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid

Nid yw hyn yn wir. Nid yw’r model economaidd a’r polisi mynediad y mae cyfnodolyn neu gyhoeddwr yn eu dilyn yn pennu eu polisi ar adolygu gan gymheiriaid. Mae’r rhan fwyaf o gyfnodolion academaidd, boed cyfnodolion Mynediad Agored neu gyfnodolion sy’n seiliedig ar danysgrifiadau, yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid. Yn yr un modd, mae yna gyfnodolion a chylchgronau Mynediad Agored/seiliedig ar danysgrifiadau sydd ddim yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid. Mae’r rhan fwyaf o’r prif gyhoeddwyr tanysgrifio yn cynnig Mynediad Agored ar gyfer cyflwyniadau unigol, ond nid yw hyn yn newid y drefn olygyddol ar gyfer pob papur a gyflwynir. Ceir disgrifiad da o gyfnodolion hybrid ar wefan llyfrgelloedd MIT.

2. Nid yw Papurau Mynediad Agored wedi’i cyfyngu gan Hawlfraint

Nid yw hyn yn wir. Nid yw dewis cyhoeddi drwy lwybr Mynediad Agored yn golygu nad yw’r erthygl dan hawlfraint; yr un dewisiadau sydd ar gael. Mae’n bosib y bydd cyfnodolion Mynediad Agored yn fwy tebygol o gynnig y dewis i’r awdur/sefydliad yr  awdur gadw eu hawlfraint eu hunain ar bapurau cyhoeddedig a’r data cysylltiedig, yn ogystal â’r hawliau moesol arferol. Mae hyn yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar yr awdur i sicrhau nad yw amodau’r hawlfraint yn cael eu torri. Ond yn y ddau achos, mae’r erthygl yn dal i fod dan hawlfraint, naill ai yn eich enw chi neu’r cyhoeddwr. Ceir crynodeb defnyddiol ar wefan Eifl.

3. Mae Cyfnodolion Mynediad Agored yn Rhad ac Am Ddim

Nid yw hyn yn wir. Mae erthyglau Mynediad Agored yn anelu at fod yn rhad ac am ddim i’r darllenydd bob amser, ond nid ydynt yn tybio bod modd cynnal y prosesau adolygu gan gymheiriaid, golygu, coladu, a lledaenu heb unrhyw gostau o gwbl. Mae’r costau hyn yn berthnasol i bob cyfnodolyn, ond mae cyhoeddwyr Mynediad Agored yn ceisio datganoli’r costau hyn drwy ddefnyddio modelau busnes amgen yn hytrach na thanysgrifio. Mae’r modelau cyffredin yn cynnwys sicrhau refeniw drwy godi Ffioedd Prosesu Erthyglau (APC) ar awduron sy’n cyflwyno gwaith, ad-dalu costau trwy godi tâl am ofod hysbysebu, nawdd llywodraeth ganolog neu fasnachol, a chodi tâl i weld adolygiadau a phapurau barn cysylltiedig. Ceir crynodeb da yn y Cyflwyniad Cyffredinol i Gyrchu Agored (Paragraff 6) gan Peter Suber.

4. Mae gan Gyfnodolion Mynediad Agored Ffactor Effaith Ymchwil Llai

Nid yw hyn yn wir. Mae yna gyfnodolion Mynediad Agored sydd â ffactor effaith ymchwil uchel ar draws pob pwnc, ac mae effaith llawer o gyfnodolion Mynediad Agored yn cynyddu wrth iddynt ddod yn fwy sefydledig (e.e. PLOS One). Ceir rhestrau o gyhoeddiadau Mynediad Agored yn y Directory of Open Access Journals a gellir eu hadolygu naill ai yn y gronfa ddata Journal Citation Reports neu’r gronfa ddata Eigenfactor.

Mae’r dystiolaeth i’r gwrthwyneb i raddau, o ran bod erthyglau Mynediad Agored, boed aur neu wyrdd, yn tueddi i gasglu cyfeiriadau yn gyflymach yn y blynyddoedd cyntaf ar ôl cyhoeddi. Mae amrywiaeth o astudiaethau ar yr effaith hwn ar gael ar wefan OpCit Project.

5. Mae’r Mwyafrif Helaeth o Ymchwil Ar Gael yn Rhad ac am Ddim Eisoes

Nid yw hyn yn wir. Er bod mynediad i’r rhyngrwyd yn fyd-eang wedi arwain at gynydd sylweddol o ran y rhag-argraffiadau, ôl-argraffiadau, a’r erthyglau terfynol sydd ar gael, mae embargos a pholisïau cyhoeddwyr yn dal i atal llawer o awduron rhag gwneud eu hymchwil ar gael i bawb. Mae’r sefyllfa yn gwella, serch hynny. Dangosodd astudiaeth diweddar gan Bergstrom bod 73% o erthyglau diweddar iawn ar economeg, a gyhoeddwyd mewn dros 25 o gyfnodolion, yn cynnig fersiwn rhad ac am ddim drwy chwiliad Google. Er bod yna brosiectau pwysig a hir-sefydlog i ddarparu ymchwil academaidd yn rhad ac am ddim i wledydd datblygol (HINARI – meddygaeth ac AGORA - amaeth), mae cyfranogiad y cyhoeddwyr yn amrywio, ac nid yw pob gwlad wedi’u cynnwys.

6.  Mae adneuo fy Mhapurau Ymchwil yn ResearchGate, Mendeley, Academia.edu neu Gadwrfeydd Masnachol eraill yn Ddigonol i Fodloni Gofynion Mynediad Agored y CCAU ar gyfer FfRhY2020 ac UK Research & Innovation (UKRI)

Anghywir. Nid yw cadwrfeydd masnachol megis ResearchGate, Academia.edu a Mendeley yn cofnodi’r metadata penodol y mae ar y CCAU eu hangen i gofnodi Mynediad Agored megis dyddiad derbyn, dyddiad cyhoeddi a hyd unrhyw waharddiad a orfodwyd gan y cyhoeddwyr. Hefyd ni fydd safleoedd cymdeithasol o’r fath yn caniatáu cydgrynhoi a chynaeafu data yn y modd y mae UKRI a’r CCAU eu hangen i gasglu a chyfuno manylion cyhoeddi i wella mynediad cyhoeddus. Hefyd, mae natur fasnachol y gweinyddwyr sy’n cynnal y safleoedd hyn yn golygu y gallai eu telerau defnyddio newid ar unrhyw adeg neu y gallai’r safleoedd ddiflannu’n llwyr. Am yr holl resymau hyn, gwnewch yn si?r mai eich blaenoriaeth gyntaf wrth sicrhau mynediad agored i’ch papurau ymchwil yw eich bod yn adneuo pob papur ymchwil ar system PURE Prifysgol Aberystwyth.

Mae Pwyllgor Ymchwil Prifysgol Aberystwyth a’r Weithrediaeth wedi cytuno, pan fo’n bosibl, y dylai pob cyfraniad newydd mewn Cyfnodolyn, gan gynnwys Trafodion Cynadleddau a gyhoeddir mewn rhifyn o gyfnodolyn, fod ar gael drwy’r llwybr Mynediad Agored Gwyrdd. Felly dylech adneuo manylion eich papur yn PURE ynghyd ag atodi dogfen wedi’i hôl-argraffu ar ôl i’r papur gael ei dderbyn.

Noder na fydd adneuo papurau ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol megis ResearchGate, Mendeley ac Academia.edu yn bodloni gofynion Mynediad Agored y CCAU ac UKRI o ran y cynnwys metadata ac o ran y gallu i gydgrynhoi a chynaeafu’r cofnodion. Gofynnwn i chi gyflwyno eich papurau i PURE fel prif lwybr adneuo Mynediad Agored.

 

7.   Bydd Adneuo fy Mhapurau Mynediad Agored Aur yng Nghadwrfa PURE PA yn Rhannu’r Cyfrifon Dyfynnu a Lawrlwytho ar gyfer Fy Erthyglau ar Wefan y Cyhoeddwr

Anghywir. Gan fod papurau mynediad agored Aur (y talwyd APC ar eu cyfer) bob amser yn cael eu dyfynnu gan ddefnyddio enw Mynediad Agored Aur y cyfnodolyn yn hytrach nag enw’r gadwrfa, a chan y bydd PURE bob amser yn rhoi manylion dyfynnu llawn y cyfnodolyn gyda dolen uniongyrchol i fersiwn Mynediad Agored y cyhoeddwr terfynol o’r papur ger brig y cofnod, mae’r gyfran ar gyfer lawrlwytho papurau mynediad agored Aur o safle cadwrfa PURE o’i gymharu â’r gyfran ar gyfer lawrlwytho o wefan yn
cyhoeddwr yn debygol o fod yn fach iawn, ac mae cyfran y dyfyniadau i bapurau Mynediad Agored Aur sy’n cyfeirio’n unig at y gadwrfa yn debygol o fod yn llai eto. Byddai angen i’r darllenwyr wybod hefyd ym mha gadwrfa y ceir hyd i’r papur Mynediad Agored Aur angenrheidiol cyn dechrau chwilio. Gan ystyried y ffactorau hyn i gyd, ni ddylai adneuo papurau Mynediad Agored Aur i PURE effeithio ar yr ystadegau dyfynnu na lawrlwytho o wefan y cyhoeddwr i raddau sylweddol o gwbl.

 

Rhestr Termau Mynediad Agored

Rhestr Termau Mynediad Agored

Adneuo
Ychwanegu cynnyrch ymchwil fel erthygl i storfa – gyda’r metadata safonol.

Agregedwyr E-gyfnodolion
Cwmnïau sy’n dod â chynnyrch e-gyfnodolion o wahanol gyhoeddwyr at ei gilydd ar un llwyfan gwe drwy drefniadau trwyddedu â’r prif gyhoeddwyr.

Cronfeydd Data Sherpa
Set o gronfeydd data sy’n rhoi manylion ynghylch gofynion Mynediad Agored cyfnodolion, cyhoeddwyr a noddwyr ymchwil ac sy’n galluogi cyfateb gofynion Mynediad Agored rhwng yr is-setiau hyn (e.e. ar gyfer gofynion cymhwysedd FfRhY CCAU)

Cyfathrebu / Cyhoeddiad Ysgolheigaidd
Darn o ymchwil, yn cynnwys erthyglau, llyfrau, penodau, adroddiadau technegol, papurau gweithredol, monograffau, cyflwyniadau mewn cynadleddau, deunyddiau clyweledol, setiau data ymchwil, modelau mathemategol a data dilynol ymhlith eraill.

Cyn-brint
Unrhyw un o ddrafftiau rhagarweiniol erthygl cyn iddo gael ei adolygu gan gymheiriaid a chyn iddo gael ei gyflwyno i gyhoeddwr, o bosib.

Embargo
Yn ystod y cyfnod hwn bydd mynediad at waith ysgolheigaidd yn gyfyngedig i’r sawl sydd wedi talu am fynediad. Ar ôl diwedd y cyfnod embargo, gellir cadw testun llawn erthygl – fersiwn cyn-brint, ôl-brint neu derfynol – mewn storfa, yn unol â’r hyn a ganiateir gan y cyhoeddwr neu’r deiliad hawlfraint.

Fersiwn Testun Llawn
Cynnwys llawn erthygl, sy’n gallu cynnwys ffeiliau data ymchwil cefndirol sy’n gysylltiedig â’r gwaith.

FfRhY
Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil a luniwyd gan Gynghorau Cyllido Addysg Uwch y DU ar gyfer asesu ansawdd ymchwil ym mhrifysgolion a cholegau addysg bellach y DU.

Hawlfraint
Hawl gyfreithiol unigryw a throsglwyddadwy, a roddir i grëwr gwaith gwreiddiol i argraffu, cyhoeddi, perfformio neu recordio deunyddiau academaidd, llenyddol, artistig neu gerddorol.

Llawysgrif sy’n cael ei derbyn gan Awduron (AAM)
Llawysgrif derfynol yr awdur sy’n cael ei llwytho i dudalen sy’n cael ei fformatio gan y cyhoeddwr. Mae’r Llawysgrif hon yn wahanol i’r fersiwn cyhoeddedig terfynol oherwydd diffyg rhifau tudalen, cyfrol a chyhoeddiad.

Metadata
Data sy’n disgrifio fformat a chynnwys deunydd mewn storfa neu gronfa ddata. O ran eitemau mewn storfeydd mynediad agored, bydd hyn yn cynnwys fel arfer o leiaf gyfeiriadau llyfryddiaethol llawn, crynodeb, geiriau allweddol, manylion embargo a chyfeiriad gwe.

Mynediad Agored
Y broses ar gyfer sicrhau bod canlyniadau ymchwil ar gael i bawb â chysylltiad â’r rhyngrwyd yn hytrach na chuddio’r canlyniadau hyn y tu ôl i wal dalu drwy danysgrifio.

Mynediad Agored Aur
Mae erthyglau’r system hon yn cael eu ‘geni’n fynediad agored’ adeg eu cyhoeddi. Mae’r rhan fwyaf o gyfnodolion mynediad agored llawn yn codi tâl am y cyhoeddiadau hyn.

Mynediad Agored Gwyrdd
Peri bod fersiwn o waith (fel arfer ôl-brint neu lawysgrif sy’n cael ei derbyn gan awdur) ar gael mewn storfa mynediad agored. Gall fod yn storfa sefydliadol fel Y Porth Ymchwil Aberystwyth  neu storfa bynciau, fel arXiv, PubMed Central neu RePec. Nid yw gosod gwaith yn ResearchGate neu gasgliadau cyfryngau cymdeithasol eraill yn cael ei ystyried yn fynediad agored Gwyrdd.

Ôl-brint
Llawysgrif yr awdur wedi’i hadolygu gan gymheiriaid a’i chywiro, ac wedi’i chreu yn Word neu LaTeX fel arfer. Pan fydd cyhoeddwyr yn gofyn i awduron lwytho fersiwn ôl-brint terfynol erthygl i dudalen sydd wedi’i fformatio, ystyrir mai Llawysgrif sy’n cael ei derbyn gan Awduron (AAM) yw’r ddogfen hon.

Porth Ymchwil Aberystwyth
Storfa sefydliadol Prifysgol Aberystwyth – research.aber.ac.uk, Gwneud y gorau o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim.

PURE
Y System Wybodaeth Ymchwil Cyfredol (CRIS) a ddefnyddir gan Brifysgol Aberystwyth i reoli metadata ymchwil ac i gadw cyhoeddiadau cysylltiedig.

Rheolau Mynediad Agored UK Research & Innovation (UKRI)
Dyma’r rheolau argaeledd mynediad agored a ddefnyddir gan UKRI er mwyn gwneud papurau’n gymwys i’w hasesu wrth ddyfarnu grantiau UKRI yn y dyfodol – gydag amrywiol ddiwygiadau:  http://www.ukri.org/funding/information-for-award-holders/open-access/open-access-policy/

Rheolau Mynediad Agored HEFCE
Dyma’r rheolau argaeledd mynediad agored a ddefnyddir gan Gynghorau Cyllido er mwyn i bapurau gan awduron addysg uwch yn y DU fod yn gymwys ar gyfer yr ymarfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf – gydag amrywiol ddiwygiadau: http://www.hefce.ac.uk/rsrch/oa/

Storfa
Cronfa ddata ar-lein o weithiau Mynediad Agored. Nid yw storfeydd yn cynnal adolygiadau gan gymheiriaid ond maent yn cynnwys deunyddiau sydd wedi’u hadolygu gan gymheiriaid mewn mannau eraill. Gall storfeydd hefyd gadw ‘llenyddiaeth lwyd’ fel Traethodau Ymchwil, Papurau Trafod, Setiau Data a deunyddiau eraill.

Storfa Bynciau
Archif ar-lein o gyhoeddiadau mynediad agored mewn meysydd penodol, e.e. PubMed Central ac arXiv. Gall gynnwys cyn-brintiau, ôl-brintiau neu fersiynau terfynol erthyglau yn ôl yr hyn a bennir gan reolau’r storfeydd neu amodau’r cyhoeddwyr.

Storfa Sefydliadol
Archif ar-lein o gynnyrch ysgolheigaidd sefydliad all gynnwys cyhoeddiadau mewn cyfnodolion, llyfrau ac adrannau mewn llyfrau, adroddiadau technegol, papurau gweithredol, monograffau, cyflwyniadau mewn cynadleddau, deunyddiau clyweledol, modelau mathemategol neu unrhyw gynnyrch ymchwil arall o werth ysgolheigaidd sydd wedi’i adolygu gan gymheiriaid.

Tâl prosesu erthyglau (APC)
Ffi cyhoeddwr i dalu costau golygu, adolygu gan gymheiriaid, marchnata a dosbarthu erthygl Mynediad Agored Aur.

Trwyddedau Creative Commons
Math o drwydded sy’n amlinellu’r hyn all unigolyn ei wneud â gwaith mynediad agored os yw’r hawlfraint yn nwylo trydydd parti. Gellir dod o hyd i fanylion y trwyddedau hyn ar wefan Creative Commons (CC) lle disgrifir 4 elfen sylfaenol y trwyddedau: trwydded priodoli yn unig (CC-BY), trwydded heb ddeilliadau (CC-BY-ND), trwydded heb ailddefnydd masnachol (CC-BY-NC), a thrwydded egwyddor ShareAlike (CC-BY-SA) a’u hamrywiol gyfuniadau.