Pam mae angen rheoli data neu wrthrychau eich ymchwil?

Mae rheoli data neu wrthrychau ymchwil yn rhan o arfer da wrth ymchwilio. Gall fod o gymorth i ymchwilwyr drwy wneud eu gwaith yn fwy effeithlon, arbed amser ac adnoddau, a hybu effaith ac amlygrwydd eu gwaith.

Drwy reoli data’n dda mae modd gwella:

  • TRYLOYWDER: Gall y dystiolaeth sy’n sail i’r ymchwil fod yn agored i bawb gael craffu arni, ei gwirio a cheisio dyblygu’r canfyddiadau.

  • EFFEITHLONRWYDD: Gellir ariannu gwaith casglu data unwaith, a’i ddefnyddio lawer o weithiau ac at amryw o ddibenion.

  • RHEOLI RISGIAU: Drwy fynd ati’n rhagweithiol i reoli data mae llai o risg y caiff data sensitif ei ddatgelu, boed yn ddata masnachol neu bersonol.

  • CADW: Mae llawer o ddata’n unigryw, a dim ond unwaith y gellir ei gofnodi. Unwaith y bydd wedi’i golli, does dim modd rhoi data arall yn ei le.

Mae hyn felly’n esgor ar ymchwil effeithlon a rhagorol.

 

Mae'r fideo isod yn dangos enghraifft byd go iawn o pam reoli data ymchwil yn bwysig (Saesneg yr unig)

Tarddiad fideo: NYU Health Sciences Library Trwyddedwyd o dan Creative Commons Attribution License