Beth yw Rheoli Data Ymchwil?

Dyma ddiffiniad y Ganolfan Curadu Digidol (DCC) o Reoli Data Ymchwil: "Rheoli a gwerthuso data yn weithredol gydol cylch bywyd diddordeb ysgolheigaidd a gwyddonol"

Mae'n cynnwys:

  • Cynllunio a disgrifio gwaith sy'n gysylltiedig â data cyn iddo ddigwydd
  • Dogfennu eich data er mwyn i eraill allu dod o hyd iddo a'i ddeall
  • Ei storio'n ddiogel yn ystod y prosiect
  • Ei adneuo mewn archif ddibynadwy ar ddiwedd y prosiect
  • Cysylltu cyhoeddiadau â'r setiau data sy'n sail iddynt

 

Mae Martin Donnelly o'r Ganolfan Curadu Digidol yn cyflwyno rhagarweiniad a chrynodeb o'r polisïau/disgwyliadau o rheoli data ymchwil (yn Saesneg yn unig)

Beth yw data ymchwil?

Gall data ymchwil neu ‘wrthrychau ymchwil’ gynnwys unrhyw ddeunydd ategol sy’n sail i gynnyrch (ysgrifenedig) ymchwil, neu sy’n ei gyfoethogi fel arall. Gall data neu wrthrychau ymchwil fod ar ffurf copi caled (analog) a digidol, a gallant gynnwys data meintiol ac ansoddol. Mae enghreifftiau o wahanol fathau o’r rhain yn cynnwys, ymhlith eraill:

  • Mesuriadau ag offer
  • Arsylwadau arbrofol
  • Dogfennau testun, taenlenni a chronfeydd data
  • Cod meddalwedd
  • Delweddau llonydd, fideo a sain
  • Gweithlifau a methodolegau
  • Sleidiau, logiau, llyfrau labordy, llyfrau braslunio, llyfrau nodiadau, ac ati.