Rheoli Data

Pryd ddylech chi reoli eich data ymchwil?

Mae angen cynllunio dulliau rheoli data’n gynnar yn y broses ymchwil er mwyn i chi allu gweithredu’r arferion drwy gydol oes y prosiect, a thu hwnt. Drwy gynllunio’n briodol yn gynnar yn y prosiect gallwch sicrhau nad ydych yn mynd yn groes i ofynion eich cyllidwyr, bod gennych ddigon o le storio am gyfnod penodol ac y gallwch nodi a chael gafael ar ddigon o adnoddau a chymorth pan fydd eu hangen arnoch.

Mae data yn aml yn para’n hwy na’r prosiect ymchwil sy’n ei greu. Mae data sydd wedi’i drefnu’n dda, a’i gofnodi, ei gadw a’i rannu’n dda yn anhepgor i hybu ymchwiliadau gwyddonol ac i greu rhagor o gyfleoedd i ddysgu ac arloesi.

Sut i reoli eich data ymchwil

Dilynwch y dolenni isod i gael gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn ag elfennau unigol rheoli data ym mhob cam o’ch prosiect ymchwil.

Cyn dechrau’r prosiect

'Cyn y prosiect'

Creu Cynllun Rheoli Data (CRhD)

Moeseg

Cydymffurfiaeth gyfreithiol

Drwy gydol y prosiect

'Yn ystod y prosiect'

Storio a diogelwch

Trefnu eich data

Fformatiau ffeiliau digidol

Ar ddiwedd y prosiect

'Ar ôl i’r prosiect ddod i ben'

Gwerthuso a dethol data

Adneuo data

Rhannu data