150 o Straeon Ymchwil ac Arloesi

I ddathlu 150 mlwyddiant y Brifysgol, byddwn yn cyhoeddi 150 o straeon am yr ymchwil ac arloesi a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn ystod ei hanes. Bydd nifer o straeon yn cael eu cyhoeddi bob wythnos yn ystod y flwyddyn hon.

Yr Athro Michael Christie

104. Darparu fframwaith i ymgorffori gwerthoedd economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol Cyfraniadau Natur i Bobl yn y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol

Mae ymchwil yr Athro Mike Christie ar gyfer asesiad ‘Ewropean and Central Asia’ (ECA) y Llwyfan Polisi Gwyddoniaeth-Rynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystem (IPBES) yn darparu fframwaith i ymgorffori gwerthoedd economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol Natur a’i gwasanaethau mewn polisïau cyhoeddus.

Yr Athro Michael Christie

Darganfod mwy
Ardal wledig

127. Sut mae byw mewn ardaloedd gwledig yn cyfrannu at deimladau o unigrwydd mewn cymunedau gwledig amrywiol, a’r rôl y mae cymunedau’n ei chwarae wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol

Mae’r prosiect hwn yn ceisio deall amrywiaeth y poblogaethau sy’n profi unigrwydd yng nghefn gwlad Cymru gyda golwg ar ystyried sut y gellir cefnogi cymunedau i ddatblygu mentrau effeithiol i fynd i’r afael ag unigrwydd mewn modd sy’n gynhwysol ac yn ystyriol o natur amrywiol cymunedau gwledig.

Dr Rachel Rahman, Stephanie Jones

Darganfod mwy
Yr Athro Ryszard Piotrowicz

150. Diogelu a Chefnogi Dioddefwyr Masnachu Pobl trwy'r Gyfraith a Pholisi

Mae ymchwil yr Athro Ryszard Piotrowicz wedi cael effaith sylweddol ar gyfraith a pholisi masnachu mewn pobl mewn pedwar maes: monitro cydymffurfiaeth Gwladwriaethau â’u rhwymedigaethau o dan Gonfensiwn Gwrth Fasnachu Cyngor Ewrop; llywio polisi'r wladwriaeth; gwreiddio'r egwyddor o beidio â chosbi pobl sydd wedi'u masnachu mewn systemau cyfreithiol cenedlaethol; a darparu hyfforddiant a chanllawiau i Wladwriaethau ar y materion cyfreithiol sy'n ymwneud â masnachu mewn pobl.

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

Darganfod mwy