Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)

Mae KTP yn rhaglen flaenllaw sy’n helpu busnesau i lwyddo drwy eu cysylltu ag adnoddau academaidd cyfoethog y Deyrnas Unedig. Mae hi’n bartneriaeth dair ffordd rhwng busnes sy’n chwilio am arbenigedd, prifysgol a myfyriwr ôl-radd sydd newydd gymhwyso – a elwir yn Gydymaith.

Trawsnewid eich busnes

  • Gall unrhyw gwmni wneud cais
  • Cewch fanteisio ar arbenigedd penodol a chael academydd gwybodus yn goruchwylio’r prosiect
  • Bydd cydymaith yn gweithio’n benodol ar y prosiect
  • Bydd arbenigedd y tîm academaidd yn dod â’u sgiliau eu hunain i’r prosiect

Arbenigedd academaidd

  • Academydd penodedig yn goruchwylio’r gwaith
  • Pŵer deallusol i arwain a chynghori’r Cydymaith pryd bynnag y bo angen
  • Mynediad i offer cynnal profion yn y Brifysgol os oes angen
  • Rhan hanfodol o’ch tîm a’ch prosiect

Cyllido eich prosiect

Gall eich prosiect bara rhwng 12 mis a 3 blynedd. Bydd KTP yn ariannu hyd at 75% o holl geisiadau trydydd sector. Mae KTP yn cynnig partneriaeth dair ffordd rhwng academydd, busnes a myfyriwr graddedig. Gan gydweithio i gyflawni prosiect strategol, mae’r bartneriaeth ddeinamig hon yn canolbwyntio ar rannu arbenigedd, profiad ac adnoddau er mwyn sicrhau newid, gwreiddio gwybodaeth a sicrhau twf. Mae hyn yn werth gwych, yn enwedig gan fod tystiolaeth yn dangos bod busnesau sy’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yn tyfu ddwywaith yn gyflymach a bod ganddynt allforion uwch o gymharu â rhai nad ydynt yn arloesi.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Helena O Sullivan

Dyddiadau Cau Pwysig

Dyddiadau Cau Pwysig

Mae'r rhaglen KTP yn rhedeg yn barhaus trwy gydol y flwyddyn. Gall yr holl ddyddiadau newid.

 

KTP rownd 6, 2023 i 2024

6 Tachwedd 2023

31 Ionawr 2024

KTP rownd 1, 2024 i 2025

13 Chwefror 2024

10 Ebrill 2024

KTP rownd 2, 2024 i 2025

15 Ebrill 2024

26 Mehefin 2024

KTP rownd 3, 2024 i 2025

1 Gorffennaf 2024

25 Medi 2024

KTP rownd 4, 2024 i 2025

30 Medi 2024

27 Tachwedd 2024

KTP rownd 5, 2024 i 2025

2 Rhagfyr 2024

5 Chwefror 2025

KTP rownd 1, 2025 i 2026

10 Chwefror 2025

9 Ebrill 2025

Beth yw’r manteision i gwmnïau?

  • Meithrin perthynas strategol â’r Brifysgol
  • Canfod pobl hynod gymwys i arwain prosiectau newydd
  • Mynediad at arbenigedd i ddatblygu sefydliadau
  • Cynyddu elw, gwybodaeth a gallu
  • Dyfeisio systemau blaengar i helpu sefydliadau dyfu
  • Datblygu’r capasiti a’r gallu i arloesi’n fwy effeithiol y tu hwnt i oes y KTP

Beth yw'r manteision i academyddion?

  • Meithrin perthynas strategol â chwmni
  • Incwm yn cyfrif tuag at Incwm Cyfnewid Gwybodaeth y Brifysgol
  • Cyfrannu at ymarfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY)
  • Datblygu syniadau dysgu ac ymchwil perthnasol
  • Goruchwylio a gweithredu fel mentor i uwchraddedigion sy’n gweithio ar brosiectau cwmnïau
  • Cyfle i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i gael profiad o arolygu
  • Cyhoeddi papurau o ansawdd ar gyfer cyfnodolion a chynadleddau
  • Cymhwyso gwybodaeth ac arbenigedd i broblemau busnes
  • Cynorthwyo newidiadau strategol mewn busnes

Pwy all gymryd rhan?

  • Cwmnïau o bob maint, ac o bob sector ddiwydiannol yn y DU
  • Elusennau a sefydliadau dielw
  • Sefydliadau addysg (ysgolion)
  • Sefydliadau iechyd (ysbytai ac Ymddiriedolaethau GIG)
  • Cynghorau ac Awdurdodau Lleol

Cyfyngiadau

Efallai na fydd KTP yn briodol i bob busnes. Efallai na fydd gan fusnesau bach iawn neu fusnesau newydd iawn y gallu i gynnig cymorth i’r Cydymaith nac ychwaith feddu ar yr adnoddau i ymrwymo i’r prosiect. Bydd ein tîm KTP yn rhoi cyngor ac arweiniad yn ystod y trafodaethau cynnar am y prosiect ac yn ei gwneud yn glir a fydd y noddwyr yn fodlon â hyfywedd ariannol eich busnes ai peidio, er mwyn sicrhau peidio gwastraffu eich amser. Os nad yw KTP yn ymarferol bydd y tîm yn trafod ac yn cynnig opsiynau eraill.

I weld prosiectau KTP blaenorol, gweler yr enghreifftiau isod.

Portffolio KTP

Cwmni Partner Sector  Nod y Bartneriaeth
Agroceutical Products Ltd Biowyddorau Datblygu a dogfennu casgliad o gofnodion a gweithdrefnau gweithredu safonol er mwyn sicrhau bod y galanthamin a gynhyrchir o gennin Pedr yn bodloni gofynion rheoliadol yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, a’r Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau.
Biotal Plc Amaethyddiaeth Datblygu mathau newydd o ychwanegion seiliedig ar borthiant ar gyfer grawn porthiant, cnydau porthiant, gweddillion cnydau a chnydau wedi’u cywain. 
Boom Cymru Diwydiannau Creadigol Ymchwilio i ddewisiadau gwylio teledu plant 7-11 oed yn ogystal â’u harferion ar lwyfannau amlgyfrwng, a chreu model ar gyfer cynhyrchu a darparu rhaglenni teledu i blant.
Environment Systems Y Gwyddorau Amgylcheddol Asesu’r heriau a’r cyfleoedd y gall yr RSGISlib a meddalwedd prosesu delweddau ffynhonnell agored eraill (h.y. pentwr OS-Geo) eu cynnig i gwmni gwybodaeth ddaearyddol o ran cynyddu gweithrediadau ac integreiddio â Chyfrifiadura Perfformiad Uchel ar gyfer cyfradd prosesu data uchel.
Fluid Gravity Engineering Limited TGCh  Datblygu côd hyblyg i lunio modelau o ffrwydradau nwyol a llifau adweithiol. 
Germinal Holdings Ltd  Biowyddorau  Datblygu pecyn sgrinio molecwlar i ategu prosesau bridio, treialu, dilysu a marchnata amrywiadau newydd o borfa yn y DU ac yn fyd-eang. 
Innovis Limited Amaeth Datblygu dulliau i reoli glaswelltir a maeth defaid, fel bo modd cyflwyno model o gadwyn gyflenwi newydd ac arloesol ar gyfer diwydiant defaid y Deyrnas Unedig. 
Innovis Limited Biowyddorau  Datblygu gwasanaethau a chynnyrch newydd i wella geneteg bridiau defaid gan ddefnyddio technoleg DNA, ac ehangu’r gwasanaethau hyn i gynnwys da byw ac anifeiliaid domestig eraill. 
Knitmesh Limited Uwchgynhyrchu a Deunyddiau Uwch  Gwerthuso atalwyr ffrwydradau newydd yn wyddonol i ddeall y mecanweithiau sylfaenol perthnasol, er mwyn dwyn y cynnyrch i’r farchnad ac optimeiddio gwaith dylunio a datblygu atalwyr ymhellach. 
Micro Materials Limites Uwchgynhyrchu a Deunyddiau Uwch  Datblygu a masnacheiddio Elipsometr Polarydd Tro newydd. 
Reynolds Geo-sciences Limited Ynni a’r Amgylchedd  Adolygu a magu arbenigedd mewn synhwyro o bell a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yn yr awyr/gofod o fewn RGSL, gan alluogi’r cwmni i fonitro, dadansoddi a rheoli peryglon rhewlifol yn fwy trylwyr. 
TTS Pharma Biowyddorau Mynd ati i optimeiddio a dilysu model allblaniad meinwe mochyn, profi cywarch crai fel therapi gwrthlidiol posibl ar gyfer endometritis a achosir gan foch a cheffylau yn paru.
Sumitomo Electric Wiring Systems (Europe) Limited TGCh Dylunio a datblygu meddalwedd ar gyfer dadansoddi ac optimeiddio systemau newydd i harneisio gwifrau cerbydau, dylunio cynnyrch o ansawdd a chwtogi’r amserlenni dylunio/dyfynbrisiau

Astudiaeth achos TTS Pharma

Astudiaeth achos TTS Pharma

“Archwilio echdynnu cywarch i fod yn therapi gwrthlidiol arloesol ar gyfer endometritis a achosir gan foch a cheffylau yn paru.”

Trosolwg

Noddwyr           

Llywodraeth Cymru (75%)

TTS Pharma (25%)

Lleoliad gwybodaeth

Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth

Cydymaith KTP

Joanna Giles

Ynghylch yr astudiaeth achos hon

Mae TTS Pharma yn gwmni integredig fertigol wedi’i leoli yn y Deyrnas Unedig ac sy’n cynhyrchu cynhyrchion Canabinoid diogel o ansawdd uchel ar gyfer y farchnad foesegol. Mae’r cwmni yn canolbwyntio’n bennaf ar echdynnu, gwahanu a gweithgynhyrchu cynhyrchion sy’n deillio o ganabinoidau ar gyfer eu defnyddio gan bobl. Fodd bynnag, mae’r cwmni bellach yn ehangu ei ymchwil i archwilio priodweddau gwrthlidiol Canabinoid ar gyfer therapi endometritis a achosir gan baru mewn moch a cheffylau.

 Ffurfiwyd y bartneriaeth rhwng y cwmni a Phrifysgol Aberystwyth gyda’r diben o werthuso priodweddau gwrthlidiol wrth echdynnu o’r planhigyn cywarch (hemp) fel therapi newydd ar gyfer endometritis a achosir gan baru mewn moch a cheffylau. Nod y prosiect hwn yw y bydd y cwmni, erbyn diwedd y KTP, wedi optimeiddio a dilysu model allblaniad meinwe mochyn ac wedi profi cywarch crai gan ddefnyddio model mochyn a cheffylau. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr i’r cwmni wrth bennu a ellir defnyddio echdyniad cywarch i drin llid y groth sy’n gysylltiedig ag endometritis mewn ceffylau a moch.

Astudiaeth Achos Environment Systems

Astudiaeth Achos Environment Systems

"OSSIE- Meddalwedd Ffynhonnell Agored i gael Gwybodaeth am yr Amgylchedd”

Trosolwg

Noddwyr

Llywodraeth Cymru (75%)

TTS Pharma (25%)

Lleoliad gwybodaeth Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth
Cydymaith KTP Joanna Giles

Alexandra Elena Mates: Fel myfyriwr graddedig ifanc, rwy’n ystyried y KTP i fod yn brosiect prin, cyffrous a heriol oherwydd efallai na fyddaf yn cael y cyfle i ddod ar ei draws eto. Roedd yn bleser pur bod yn rhan o ddau grŵp masnachol ac academaidd cyfeillgar iawn ac roeddwn yn gwerthfawrogi’n fawr yr ethos o ymchwil, cynhyrchiant, rheoli prosiect, gofal am yr amgylchedd a phobl.

Ynghylch yr astudiaeth achos hon

Mae Environment Systems (Aberystwyth) yn defnyddio amrywiaeth o feddalwedd ar gyfer prosesu delweddau Synhwyro o Bell sy’n tueddu i fod yn gostus ac yn brin o hyblygrwydd. Roedd cyfarwyddwr y cwmni, Steve Keyworth, yn gwybod am ddatblygiadau llyfrgell prosesu delweddau ffynhonnell agored RSGISlib dan arweiniad y darlithydd Pete Bunting yn Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth.

Ffurfiwyd y bartneriaeth rhwng y cwmni a’r lleoliad gwybodaeth gyda’r diben o asesu’r heriau a’r cyfleoedd y gallai’r RSGISlib a meddalwedd prosesu delweddau ffynhonnell agored eraill (h.y. pentwr OS-Geo) eu cynnig i gwmni gwybodaeth ddaearyddol o ran cynyddu gweithrediadau ac integreiddio â Chyfrifiadura Perfformiad Uchel ar gyfer cyfradd prosesu data uchel. Nod y prosiect oedd y byddai’r cwmni, erbyn diwedd y KTP, mewn sefyllfa i ddeall i ba raddau y gellid integreiddio gwahanol feddalwedd i lif gwaith Systemau Amgylcheddol, lefel y wybodaeth sydd ei hangen gan ddadansoddwyr i ddefnyddio’r systemau hyn, a goblygiadau ariannol gwneud hynny.

Astudiaeth Achos Boomerang+

Dafydd Felix-Richards, Cadeirydd Pwyllgor y Prosiect, Boom Pictures: “Fel cwmni sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol, roedd bod yn rhan o’r KTP hwn wedi rhoi ffocws i ni ac wedi dyfnhau ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth am ofynion demograffig, technolegol a diwylliannol ein maes busnes. Drwyddi draw, roedd ein profiad o’r prosiect yn werth chweil."

Trosolwg

Noddwyr

Llywodraeth Cymru (75%)

TTS Pharma (25%)

Lleoliad gwybodaeth Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth
Cydymaith KTP

Joanna Giles

 Ynghylch yr astudiaeth achos hon

Deilliodd y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) hon o bartneriaeth strategol sefydledig a oedd gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth â Boomerang+ (sef Boom Cymru bellach). Trwy’r bartneriaeth â’r Adran hon, mae’r cwmni wedi cynnal dosbarthiadau meistr, cyfrannu at fodiwlau academaidd, helpu i ddatblygu gwaith myfyrwyr, cynnig cyfleoedd profiad gwaith, a chefnogi mentrau eraill megis prosiectau a ariannwyd gan KESS.

Boomerang+ yw un o’r cwmnïau cynhyrchu cyfryngau annibynnol mwyaf yng Nghaerdydd, ac mae’n un o gynhyrchwyr mwyaf y DU o ran cynnwys teledu gwreiddiol i blant. Roedd y KTP hwn yn canolbwyntio’n benodol ar gangen Boom Plant y sefydliad, a’i nod oedd ymchwilio i hoffterau ac arferion plant Cymraeg 7 i 13 oed ar y cyfryngau, i ‘fapio’ agweddau’r gynulleidfa hon yng Nghymru a chreu model ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni teledu i blant.