Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth KESS II

Logo Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESSII) yn weithgaredd sylweddol ar draws Cymru a gefnogir gan gronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru. Mae'n cysylltu cwmniau a sefydliadau gydag arbenigedd academaidd yn y sector Addysg Uwch yng Nghymru i ymgymryd â phrosiectau ymchwil ar y cyd. Yn dilyn prosiect KESS hynod lwyddiannus rhwng 2009 a 2014, mae KESS II bellach yn yr ail rownd gyllido a bydd yn darpau 645 o ysgoloriaethau dros gyfnod y gweithgaredd.

Pa fath o sefydliadau all gymryd rhan?

Gall amrywiaeth o gwmnïau a sefydliadau gymryd rhan yn KESS II, gan gynnwys gwmnïau Busnes-Meicro, busnesau bach a chanolig, cwmnïau mawr, Trydydd Sector a Mentrau Cymdeithasol. I fod yn gymwys, rhaid i chi fod â phresenoldeb gweithredol yn y Ardal Cydgyfeirio (Gorllewin Cymru a'r Cymoedd) a Dwyrain Cymru. Mae'r holl ysgoloriaethau KESS wedi'u hintegreiddio â rhaglen hyfforddi sgiliau lefel uwch ar gyfer y myfyriwr sy'n cymryd rhan, gan arwain at Wobr Datblygu Sgiliau Ôl-radd, a fydd yn mynd i'r afael â bylchau gwybodaeth. Rhaid i unrhyw brosiect ymchwil arfaethedig hefyd ddangos budd parhaol i'r rhanbarth perthnasol ar adeg y cais.

 

Pam Dewiswch KESS II

Mae pob prosiect wedi'i ddylunio'n benodol i fodloni anghenion eich cwmni. Yna, cynhelir y prosiect gan fyfyriwr ar lefel Meistri Ymchwil neu PhD, a gefnogir gan y cwmni a'r Brifysgol berthnasol. Dyma rai o'r fanteision o gymryd rhan yn KESS II:

  • Y cyfle i brofi hawliadau, canfyddiadau a phrofiadau ynglŷn â'ch cynnyrch, eich gwasanaeth neu'ch brand.
  • Ymchwil y gallwch chi siapio, gyda chymorth academaidd, i weddu  anghenion eich cwmni.
  • Sefydlwch eich sefydliad fel llais awdurdodol ac arweinydd marchnad yn eich sector.
  • Myfyriwr penodol, wedi'i oruchwylio gan academydd, i weithio ar faes penodol i'ch busnes.
  • Cost isel iawn yn erbyn yr elw gall ei gynhyrchu ar gyfer eich cwmni. 

 

Mae rhaid i brosiectau ymchwil hefyd gyd-fynd â sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru:

  • TGCH a'r Economi Digidol
    • Prosiect enghreifftiol: Arferion twristiaeth ddigidol byd-eang a datblygu economaidd ar gyfer Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO
  • Gwyddorau Bywyd ac Iechyd
    • Prosiect enghreifftiol: Datblygu technolegau arloesol ym maes iechyd merched yng nghyswllt gwneud diagnosis clinigol ynghylch anffrwythlondeb a chancr gynaecolegol
  • Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd
    • Prosiect enghreifftiol:Tyfu tatws sy'n gwrthsefyll clwy tatws
  • Peirianneg a Deunyddiau Uwch
    • Prosiect enghreifftiol:Datblygu cynnyrch ar gyfer rhyddhau cyffuriau ar y croen a drwy'r croen mewn modd rheoledig gan ddefnyddio dulliau encapsiwleiddio micro/nano a nodwyddau micro

 

Bydd angen i gynigion prosiectau gael eu llunio gan bartner academaidd ym Mhrifysgol Bangor a phartner cwmni – gyda’r prosiect yn canolbwyntio ar angen yn y cwmni.

Er mwyn bod yn gymwys i gael arian o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, rhaid i brosiectau ddilyn y meini prawf canlynol:

  • Cael eu llunio mewn partneriaeth â phartner cwmni.
  • Rhaid i weithgarwch y prosiect fod yn rhanbarth cydgyfeirio Cymru neu Ddwyrain Cymru.
  • Bydd yn rhaid i’r cwmni partner wneud cyfraniad ariannol blynyddol (Mae'r cyfraniadau yn destyn TAW):
    • Gorllewin MPhil/MRes: £3,750 - £4,750 (gan ddibynnu ar faint y cwmni).
    • Dwyrain PhD: £5,500 - £7,000 (gan ddibynnu ar faint y cwmni)
    • Dwyrain MPhil/MRes: £5,500 - £7,000 (gan ddibynnu ar faint y cwmni)
  • Rhaid iddo berthyn i un o feysydd 'her mawr' Llywodraeth Cymru.
  • Rhaid iddo arwain at gymhwyster Gradd Meistri Ymchwil neu PhD. Ni all y myfyrwir ddal cymhwyster ar y lefel yma cyn yr ysgoloriaeth.
  • Rhaid iddo gael ei gwblhau cyn pen 3.5 blynedd ar gyfer PhD; 1 flwyddyn a 3 mis ar gyfer Meistri Ymchwil.

Ar ôl cymeradwyo’r prosiectau arfaethedig, bydd ysgoloriaeth yn cael ei chynnig.

 

Mae’r ysgoloriaeth yn cynnig y canlynol i’r cyfranogwr (myfyriwr) cymwys:
  • Tâl misol yn unol â chyfraddau UKRI: 3 mlynedd o gyllid sef £14,628 ar gyfer PhD; blwyddyn o gyllid sef £11,702 ar gyfer Meistri Ymchwil.
  • Ni fydd Prifysgol Aberystwyth yn codi ffioedd dysgu
  • Cyfle i fanteisio ar lu o hyfforddiant sgiliau lefel uwch a phresenoldeb yn Ysgol Breswyl Graddedigion KESS. Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan gwblhau Dyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig KESS.
  • O leiaf 30 diwrnod y flwyddyn yn gweithio gyda’r partner cwmni ar eu prosiect penodol.
  • Cyllideb KESS safonol ar gyfer costau eraill sy’n ymwneud â’r prosiect ymchwil (teithio, nwyddau traul ac offer).
  • Rhaid i’r myfyrwyr gwblhau a chyflwyno eu traethawd mewn 3.5 blynedd ar gyfer PhD; 1 flwyddyn a 3 mis ar gyfer Meistri Ymchwil.

Dylai’r ymgeiswyr fyw yn ardal cydgyfeirio Cymru wrth gael eu penodi, a dylen nhw fod â’r hawl i weithio yn y rhanbarth wrth gymhwyso.

 

Beth yw'r dyddiad cau nesaf ar gyfer Ffurflenni Cais am Brosiect? 

Mae ceisiadau prosiectau MPhil a Mres Dwyrain Cymru ar agor. Nid oes rhagor o leoedd PhD ar gael ar gyfer Gorllewin Cymru. Gellir cyflwyno ceisiadau MPhil ac MRes Gorllewin Cymru ar unrhyw adeg. 

 

Am fwy o wybodaeth gwelwch KESS 2 Taflen Ffeithiau i Gwmniau (Gorllewin)    KESS 2 Taflen Ffeithiau i Gwmniau (Dwyrain)

 

Cynaliadwyedd & KESS2

Mae KESS2 fel prosiect wedi ymrwymo i weithredu mewn modd cynaliadwy. Rydym yn gweithio tuag at sicrhau bod ein tîm a'n partneriaid yn gallu dangos ein bod yn rhoi ystyriaeth briodol i lesiant y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol yn ein holl withgareddau, fel ein bod yn gallu byw, gweithio a chreu'r Cymru mae pawb eisiau. Am ragor o fanylion, ewch i dudalennau Cynaliadwyedd gwefan KESS2.

 

 Logo Cronfa Gymdeithasol Ewrop

Mae’r Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

*Mae'r ardal Cydgyfeirio yn cynnwys Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, ac mae'n cynnwys y 15 awdurdod lleol a ganlyn: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tydfil, Caerffili, Blaenau Gwent a Torfaen. Mae Dwyrain Cymru yn cynnwys y 7 awdurdod lleol canlynol: Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd, Bro Morgannwg