Gwasanaethau Llyfrgell

Sarah Gwenlan
Llyfrgellydd Pwnc ar gyfer Seicoleg
Ebost: ssg@aber.ac.uk

Mae Llyfrgell Hugh Owen yn darparu cyfoeth o adnoddau ar gyfer Seicoleg, rhai ar-lein yn ogystal â thestunau print. Fe welwch rai Adnoddau allweddol y Llyfrgell wedi’u rhestru isod.

 

Llyfrgellydd Pwnc:

Sarah Gwenlan ydw i, eich Llyfrgellydd Pwnc ar gyfer Seicoleg. Rwyf yma i'ch helpu i ddod o hyd i adnoddau a fydd yn eich galluogi i fanteisio i'r eithaf ar eich astudiaethau mewn Seicoleg a Chwnsela. 

Gallaf eich helpu gyda’r tasgau isod:

  • Dod o hyd i lyfrau priodol ac erthyglau mewn cyfnodolyn ar gyfer eich aseiniadau a'ch ymchwil
  • Cyfeirnodi a dyfynnu
  • Hyfforddiant sgiliau gwybodaeth a chymorth manwl sy’n benodol i’r pwnc

 

Rwy'n cynnig sesiynau galw heibio wyneb-yn-wyneb yn y llyfrgell:

  • Ar ddydd Mawrth, 11-12: Llawr D, Llyfrgell Hugh Owen
  • Ar ddydd Iau, 1-3pm: Ystafell 0.11, P5

Fel arall, cewch anfon ebost ataf i unrhyw bryd os oes gennych gwestiynau i mi, neu fe gewch drefnu apwyntiad drwy Teams neu'n bersonol: Archebu amser gyda Sarah Gwenlan [ssg] (Staff)