Cymorth i Gweinyddol

Tîm Gweinyddol Seicoleg
E-bost: Psychology@aber.ac.uk

Mae eich tîm gweinyddol profiadol yma i’ch cynorthwyo trwy gydol eich cyfnod yn fyfyriwr. O’u man gwaith ym Mhrif Swyddfa Seicoleg (1.11 P5) gall y staff gweinyddol eich helpu gyda phob math o ymholiadau ac os na allant eich helpu, rwy’n sicr y gallant eich cyfeirio at y lle cywir. Felly os nad ydych yn sicr â phwy y dylech siarad neu beth ddylech chi ei wneud am rywbeth, dyma’r ‘siop un stop’ i gael cymorth a chefnogaeth.

Mae gennym bolisi drws agored rhwng 10am a 4pm, felly galwch heibio i ddweud helo.

Seicoleg Rhaglennu Israddedigion 2019-20

 

Amgylchiadau Arbennig

Gwyddom fod pethau’n digwydd ambell dro sy’n effeithio ar eich astudiaethau, ond mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’r adran am hyn fel y gallant wneud y pethau angenrheidiol i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. Mae gan y Brifysgol Ffurflen Amgylchiadau Arbennig y dylech ei llenwi os oes gennych amgylchiadau sy’n effeithio arnoch ac a all effeithio ar eich perfformiad.

I gael rhagor o wybodaeth am Amgylchiadau Arbennig ac i lawrlwytho ffurflen (gellir cael copïau papur o’r Swyddfa Seicoleg) ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/exams/special-circumstances/

 

Cymorth i Fyfyrwyr

Mae gan y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr wasanaeth cyfrinachol am ddim a all gynorthwyo gydag amrywiaeth eang o faterion, o reoli arian i’r hyn y gallwch ei wneud os ydych am newid cwrs neu dynnu’n ôl.

https://www.aber.ac.uk/cy/student-support/student-advice/

e-bost: student-support@aber.ac.uk

 

Gall y gwasanaeth lles eich cefnogi gyda’ch lles a’ch cynorthwyo gyda rheoli materion yn y brifysgol a thu hwnt. Bydd angen i chi gofrestru am y gwasanaeth a chewch ragor o wybodaeth ynghyd â ffurflen gofrestru ar-lein ar ei gwefan.

https://www.aber.ac.uk/cy/student-support/health/

e-bost: studentwellbeing@aber.ac.uk

 

Estyniadau

Mae’r brifysgol yn cymryd dyddiadau cau am waith cwrs yn gwbl ddifrifol a dyfernir marc o sero i waith a gyflwynir yn hwyr. Os oes gennych amgylchiadau gwirioneddol sy’n effeithio ar eich gallu i gyflwyno gwaith ar amser, gallwch ofyn am estyniad. Ceir ffurflenni fan hyn:

https://blackboard.aber.ac.uk/webapps/blackboard/content/listContent.jsp?course_id=_6092_1&content_id=_870867_1&mode=reset

 

Ymholiadau Amserlen/Seminar/Presenoldeb

Mae’r tîm gweinyddol yn rheoli’r amserlen, trefn y seminarau a’r cofnod presenoldeb, felly os oes gennych unrhyw gwestiwn am y rhain, cofiwch gysylltu â hwy.

Mae eich amserlen i’w gweld drwy eich cofnod myfyriwr. Mae presenoldeb yn hanfodol ac os na allwch fod yn bresennol dylech roi gwybod i gydgysylltydd y modiwl a'r swyddfa weinyddol (psdstaff@aber.ac.uk) drwy e-bost.  

Dylech ddefnyddio eich Cerdyn Aber i gofnodi eich presenoldeb mewn darlithoedd a seminarau. Cofiwch eich bod yn cofnodi eich presenoldeb yn y cyfnod cywir er mwyn iddo fod yn ddilys (10 munud y naill ochr i amser y ddarlith). Os nad yw’r cerdyn gennych, ni fyddwn yn gall diweddaru eich presenoldeb ar ôl hynny, felly ceisiwch gofio bod y cerdyn gyda chi ymhob sesiwn.

Efallai y bydd yn bosib newid eich grŵp seminar i ddyddiad arall ond mae hyn yn dibynnu faint o le sydd ar gael yn ogystal â gofynion penodol y modiwl, megis gwaith grŵp. Os bydd angen i chi newid grŵp seminar dylech wneud hynny mor fuan â phosib yn y tymor.

Gellir dod o hyd i fanylion am amserlenni fan hyn:

https://www.aber.ac.uk/cy/timetable/

 

Ymholiadau Cofrestru/Arholiad

Y tîm gweinyddol hefyd sy’n cydlynu’r cofrestru, y cyn-gofrestru adeg y Pasg, yn ogystal â’r arholiadau. Gall eich tiwtor personol neu staff y swyddfa eich helpu gydag ymholiadau ynglŷn â newid modiwl, newid cynllun, neu dynnu’n ôl o’r Brifysgol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am gofrestru, gan gynnwys sut i newid modiwlau a/neu gynllun gradd, fan hyn:

 https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/students/ug-issues/registration/

 

Mae modd i chi newid eich modiwl neu eich cynllun gradd drwy eich cofnod myfyriwr, ond dylech siarad ag aelod o staff yr adran cyn gwneud hynny.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am arholiadau ac asesiadau fan hyn:

https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/students/ug-issues/exam-assess/