Dr Hanna Binks BSc Seicoleg (Prifysgol Bangor) MA Dwyieithrwydd (Prifysgol Bangor) PhD Dwyieithrwydd (Prifysgol Bangor) FHEA

Dr Hanna Binks

Lecturer in Psychology

Adran Seicoleg

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae Hanna yn seicoieithydd cymhwysol ag arbenigedd mewn dwyieithrwydd ac ieithoedd lleafrifol. Mae hi wedi bod yn darlithydd mewn seicoleg yn Aberystwyth ers 2019.

Ymchwil

Mae Hanna yn seicoieithydd cymhwysol ag arbenigedd mewn dwyieithrwydd ac ieithoedd lleafrifol. Mae ymchwil Hanna yn ymchwilio'n bennaf i gaffaeliad dwyieithog/amlieithog a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar hyfedredd. Mae ei hymchwil yn edrych yn benodol ar gaffaeliad disgyblion dwyieithog Cymraeg-Saesneg o ramadeg gymhleth a geirfa a sut mae ffactorau megis ansawdd, maint y mewnbwn a ffactorau cymdeithasol megis defnydd iaith ac agweddau yn rhagfynegi cyrhaeddiad ieithyddol. Mae Hanna ar hyn o bryd yn ehangu ar yr ymchwil hwn i edrych ar lwybrau caffael plant sy’n caffael y Gymraeg a’r Saesneg fel ieithoedd ychwanegol. Y tu hwnt i ymchwil caffael iaith, mae rhai o’i phrosiectau diweddar yn cynnwys sut mae defnydd cymdeithasol pobl ddwyieithog Cymraeg-Saesneg o’u hieithoedd ar draws peuoedd yn effeithio ar oruchafiaeth iaith. Gyda chydweithwyr yn y Gymraeg ac adran y Gyfraith, mae hi’n edrych ar y defnydd o gyfieithu ar y pryd yn ystafelloedd llys Cymraeg.

Cyfrifoldebau

Hanna yw cyfarwyddwr astudiaethau Cymraeg yr adran. Mae hi hefyd yn Hyrwyddwr Cydraddoldeb a aelod o Senedd i’r adran.
 

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Mawrth 10.30-12.00
  • Dydd Iau 10.30-12.00

Cyhoeddiadau

Binks, HL & Thomas, EM 2023, 'Welsh–English bilingual adolescents’ performance on verbal analogy and verbal classification tasks: The role of language exposure and use on vocabulary knowledge', International Journal of Bilingual Education and Bilingualism. 10.1080/13670050.2023.2236278
Jewell, R, Huws, CF & Binks, H 2022, 'Cyfieithu Cyfiawn? Cyfieithu ar y pryd yn llysoedd Cymru'. in R Williams (ed.), Y Gymraeg a Gweithle'r Gymru Gyfoes . Gwasg Prifysgol Cymru | University of Wales Press.
Huws, CF, Jewell, RM & Binks, H 2022, 'A legislative theatre study of simultaneous interpretation in legal proceedings', International Journal of Speech, Language and the Law, vol. 29, no. 1, pp. 37-59. 10.1558/ijsll.20610
Huws, CF, Binks, H, Jewell, R & Schwede, L 2022, 'Gwrandawiadau o bell a theatr ddeddfu/Remote hearings and legislative theatre (in Welsh with simultaneous interpretation)'.
Huws, CF, Jewell, R & Binks, H 2022, 'Legislative theatre and remote hearings', Paper presented at Dyfodol achosion dwyieithog | The future of remote court hearings , Aberystwyth, United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, 21 Jul 2022 - 21 Jul 2022.
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil