Charles Musselwhite

 Charles Musselwhite

Chair in Psychology

Adran Seicoleg

Manylion Cyswllt

Proffil

Rwy’n Athro Seicoleg, ac yn ddeiliad Cadair yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae fy ymchwil yn cynnwys defnyddio seicoleg gymdeithasol, amgylcheddol ac iechyd i ddeall a gwella’r berthynas rhwng yr amgylchedd adeiledig a thrafnidiaeth ac iechyd. Rwy’n gyd-gyfarwyddwr dwy ganolfan ymchwil a ariennir, y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia a’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd. Rwyf hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Trafnidiaeth a Symudedd, canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rwy’n dros 60 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn cyfnodolion, dros 26 o benodau mewn llyfrau a phum llyfr. Bûm yn aelod o bwyllgor gweithredol Cymdeithas Gerontoleg Prydain (BSG) rhwng 2015 a 2020, ac yn sefydlydd a chyd-arweinydd grŵp diddordeb arbennig y BSG ar symudedd a thrafnidiaeth yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae fy ngwaith ymchwil wedi cynnwys dros 125 o gyflwyniadau mewn cynadleddau, gan gynnwys cyflwyniadau gwadd mewn dros 60 o gynadleddau rhyngwladol a chenedlaethol. Rwy’n gweithio’n agos gyda’r llywodraeth, elusennau a sefydliadau’r trydydd sector ac rwy’n awyddus i ymgysylltu â’r cyhoedd er mwyn rhannu fy ymchwil gyda’r byd go iawn. Rwyf wedi gwneud dau gyflwyniad mewn Gwyliau Gwyddoniaeth Prydeinig (2008 a 2016) ac wedi ysgrifennu llawer o erthyglau ar gyfer y cyhoedd. Rwyf wedi ymddangos ar deledu a radio yn trafod amrywiaeth o bynciau’n ymwneud â heneiddio, symudedd a’r amgylchedd adeiledig. Rwy’n brif olygydd y Journal of Transport & Health (Elsevier) ac ar fwrdd golygyddol cyfnodolion EnvisAGE (Age Cymru) a Research in Transportation Business & Management (Elsevier). 

Ymchwil

Dau brif faes o ddiddordeb sydd gennyf, sef (1) gerontoleg amgylcheddol, yn craffu ar y berthynas rhwng yr amgylchedd ac iechyd yn ystod y cyfnodau diweddarach mewn bywyd, gan gynnwys diogelwch i ddefnyddwyr ffyrdd hŷn, rhoi'r gorau i yrru, a chreu cymdogaethau a chymunedau mwy addas i bobl hŷn; (2) trafnidiaeth ac iechyd, gan gynnwys yr agweddau cymdeithasol ar drafnidiaeth a symudedd. Rwyf wedi gweithio ar dros 45 o brosiectau ymchwil fel prif ymchwilydd neu cyd-ymchwilydd, yn dod â chyfanswm o dros £26m o incwm ymchwil. Ar hyn o bryd myfi yw’r Prif Ymchwilydd ac yn Gyd-gyfarwyddwr ar 2 brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru: sef (1) y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR), prosiect £3m i sicrhau bod ymchwil i heneiddio yn bwydo i bolisi ac ymarfer ledled Cymru; (2) Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) gwerth £400k, sy’n dwyn ynghyd y rhai sy'n gweithio ym mesydd ymchwil iechyd a thrafnidiaeth o wahanol ddisgyblaethau.

Cyhoeddiadau

Macleod, K, Cole, B & Musselwhite, C 2022, 'Commuting to work post-pandemic: Opportunities for health?', Journal of Transport & Health, vol. 25, 101381. 10.1016/j.jth.2022.101381
Musselwhite, C 2022, 'A research agenda on transport and health and public buses: More research on the buses please!', Journal of Transport & Health, vol. 24, 101355. 10.1016/j.jth.2022.101355
Mullins, J, Tales, A, Musselwhite, C & Rich, N 2023, '‘Rekindling couplehood’ using a multisensory suitcase of memories: A pilot study of people living with moderate dementia and their partners', Ageing and Society, vol. 43, no. 12, pp. 2875-2893. 10.1017/S0144686X21001926
Musselwhite, C 2021, Designing Public Space for an Ageing Population: Improving Pedestrian Mobility for Older People. Emerald Group Publishing. 10.1108/9781839827440
Musselwhite, C & Roberts, K 2021, 'Accessibility and informational barriers to an age friendly railway', Quality in Ageing and Older Adults, vol. 22, no. 2, pp. 114-129. 10.1108/QAOA-02-2021-0015
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil