Cyrsiau Uwchraddedig

physics, postgraduate, pg, study, research

Cynigir adnoddau i fyfyrwyr astudio ar gyfer graddau PhD ac MPhil drwy ymchwilio i amrywiaeth eang o bynciau

Gwneir ymchwil helaeth ym meysydd:

Astudiaethau ôl-raddedig

Mae’r athrofa yn cynnwys labordai o’r radd flaenaf, adnoddau uwchgyfrifiadura a delweddu 3D ar gyfer prosiectau ymchwil, ac mae’n gwneud defnydd helaeth o ganolfannau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol. Mae rhestr o brosiectau PhD nodweddiadol ym meysydd Ffiseg Faterol a Ffiseg Cysawd yr Haul ar gael.

Mae’r ymchwilwyr Ffiseg yn gweithio mewn cydweithrediad agos â’r ymchwilwyr Mathemateg, ym meysydd modelu mathemategol o soledau a strwythurau, rheoleg hylifau cymhleth ac ewynnau, dadansoddi a theori mesur, dadansoddi ffwythiannol, algebrâu gweithredydd, systemau cwantwm agored a chyfuniadeg algebraidd.

Gweler tudalennau’r grwpiau canlynol am ragor o wybodaeth:

Sut i wneud cais

Mae’n rhaid i ddarpar uwchraddedigion gyflwyno cais ffurfiol i’r Swyddfa Derbyn Graddedigion. Yna, gwahoddir ymgeiswyr addas i ymweld â’r athrofa i weld y gweithgareddau ymchwil drostynt eu hunain, i gwrdd â’r staff ac i weld yr adnoddau sydd ar gael.

Croesewir ymholiadau anffurfiol am ragor o wybodaeth cyn gwneud cais. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio phys@aber.ac.uk, neu drwy ysgrifennu atom yn ein cyfeiriad cyswllt.

Ffynonellau Cyllid

Mae’r Adran yn cynnig ysgoloriaethau DU/UE yn rheolaidd (e.e. oddi wrth EPSRC, NERC, STFC) – mae croeso i chi wneud ymholiad anffurfiol i’r athrofa i gael gwybod beth sydd ar gael ar unrhyw adeg benodol. Mae’r Brifysgol hefyd yn rhedeg cynllun ysgoloriaethau, sef cystadleuaeth Ysgoloriaethau Ymchwil Uwchraddedig Aberystwyth.

Mae’r Adran hefyd yn cynnig 3 bwrsariaeth y flwyddyn ar gyfer Uwchraddedigion o wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE i dalu am y gwahaniaeth rhwng ffioedd tramor a ffioedd DU/UE. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r adran ar phys@aber.ac.uk

Mae gwybodaeth am ffynonellau eraill o gyllid, ffioedd, a chostau byw ar gyfer myfyrwyr o’r DU, yr UE, ac o wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE, hefyd ar gael.