Rheoli Risg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i hybu diwylliant o reoli risg cadarnhaol, gan ystyried y Gofrestr Risgiau fel dull i helpu i wella’i phrosesau yn barhaus a gwella profiad y myfyrwyr. Mae’r Brifysgol yn cadw Cofrestr Risgiau ar lefel uchel sy’n canolbwyntio ar elfennau sy’n peryglu ei chyfeiriad strategol, ei thwf a’i chynaliadwyedd hirdymor. Ategir hyn gan broses rheoli risg ledled y Brifysgol gyfan ac mae pob Athrofa ac Adran Gwasanaeth Proffesiynol drwy’r broses hon yn llunio cofrestr sy’n rhestru risgiau i’w llwyddiant.

Ceir canllawiau ar reoli risg a llenwi’r cofrestrau risgiau yn y ddogfen Polisi a Gweithdrefnau Rheoli Risg a dogfennau eraill a restrir isod. 

Polisi Rheoli Risg 2020

 

Cysylltiadau

Enw

Rôl

Ffôn

E-bost

Dr Sarah Taylor

Pennaeth Datblygu Strategol

01970 621863

srt@aber.ac.uk