Etholiadau 2021: beth i edrych amdano yng Nghymru

05 Mai 2021

Mewn erthygl yn The Conversation  mae Dr Anwen Elias o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod yr etholiad Senedd a sut y gall Llafur fod ar y trywydd iawn i ennill eto, ond mae llawer hefyd yn marchogaeth ar bwy arall sy'n ennill ac yn colli.

Dyfarnu cyllid ar gyfer llythrennau T-Z i brosiect y Geiriadur Eingl-Normaneg ar-lein

11 Mai 2021

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael cyllid i gwblhau rhan olaf eu gwaith yn diwygio’r Geiriadur Eingl-Normaneg ar-lein.  

Academyddion Aberystwyth yng Ngŵyl y Gelli

12 Mai 2021

Bydd tri academydd o Brifysgol Aberystwyth ar raglen Gŵyl y Gelli eleni, a ddarlledir am ddim ar-lein o'r Gelli Gandryll o 26 Mai tan 6 Mehefin.  

Arbenigwr ar heneiddio wedi ei benodi’n Athro Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth

14 Mai 2021

Mae academydd blaenllaw ym maes heneiddio wedi ei benodi i Gadair newydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Defnyddio ffeibr optig i fesur tymheredd Llen Iâ’r Ynys Las

14 Mai 2021

Mae gwyddonwyr wedi defnyddio offer synhwyro ffeibr optig i gofnodi’r mesuriadau mwyaf manwl erioed o nodweddion rhew ar Len Iâ'r Ynys Las.

Gwyddonwyr yr haul yn cadarnhau tonnau magnetig 70 mlynedd wedi iddynt gael eu rhagweld

18 Mai 2021

Mae ymchwilwyr wedi cadarnhau bodolaeth tonnau magnetig ar wyneb yr Haul a ragwelwyd gan wyddonydd o Sweden dros 70 mlynedd yn ôl.

Gwobr Adran y Flwyddyn i'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

18 Mai 2021

Yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol enillodd deitl Adran y Flwyddyn yng Ngwobrau Dathlu Staff a Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr, 2021.

Disgwyl i Labordy’r Traeth ddychwelyd i lan y môr wrth i Brifysgol Aberystwyth ddathlu Wythnos Roboteg

19 Mai 2021

Disgwylir i robotiaid o bob lliw a llun ymgynnull yn y bandstand yn Aberystwyth unwaith eto'r haf hwn wrth i Brifysgol Aberystwyth ddathlu Wythnos Roboteg y DU (19-25 Mehefin 2021).

Gallai COVID-19 fod yn ddiwedd ar ‘iechyd byd-eang’ fel rydyn ni’n ei wybod

19 Mai 2021

Mewn erthygl yn The Conversation mae'r Athro Colin McInnes yn trafod y gwahaniaethau polisi sydd wedi ymddangos dros faterion sylfaenol yn ystod y pandemig a sut mae angen ailadeiladu iechyd byd-eang ar ôl COVID-19.

Gwahodd enwebiadau i swydd Dirprwy Ganghellor

20 Mai 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwahodd enwebiadau i rôl anrhydeddus y Dirprwy Ganghellor.

Prifysgol Aberystwyth i arwain ymchwil ar gwtogi nwyon tŷ gwydr yn dilyn grant sylweddol

24 Mai 2021

Bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain ar waith ymchwil i dynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer fel rhan o gynllun o bwys sy’n cael ei gyllido gan y llywodraeth.


 

Mae atmosffer yr haul ganwaith poethach na’i wyneb – dyma pam

25 Mai 2021

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Marianna Korsos a Dr Huw Morgan o’r Adran Ffiseg yn trafod sut y gallai tonnau Alvén, a ragwelwyd 80 mlynedd yn ôl, esbonio pam bod atmosffer yr haul gymaint poethach na’i wyneb.

Roman Protasevich: y newyddiadurwr o Felarws sy’n herio ac wedi cythruddo unben olaf Ewrop

25 Mai 2021

Mewn erthygl yn The Conversation, mae’r Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod sut y mae’r blogiwr ifanc Roman Protasevich wedi cythruddo Alexander Lukashenko, a sicrhau bod y byd yn gwybod am y mudiad dros ddemocratiaeth ym Melarws.

Dewis Choice yn derbyn cyllid gan Sefydliad Moondance

Mae'r ymchwilwyr Sarah Wydall, Rebecca Zerk ac Elize Freeman wedi derbyn £105,000 gan yr elusen Sefydliad Moondance i gefnogi Menter Dewis Choice, sy'n gweithio gyda phobl hŷn sydd yn neu sydd wedi dioddef o gam-drin domestig. 

Ymchwil cywarch i ddarganfod driniaethau newydd i anifeiliaid

28 Mai 2021

Mae ymchwil i ddefnydd cywarch fel triniaeth ar gyfer afiechydon anifeiliaid wedi dechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth.