Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC27020
Teitl y Modiwl
'Arwyr': Dogfennu Gyrfaoedd yn y Diwydiannau Creadigol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll .25 Awr   Cyflwyno Prosiect  Cyflwyniad hyd at 15 munud yn disgrifio prosiect creadigol yn seiliedig ar waith ymarferydd neu artist o ddewis y myfyriwr. .25 Awr  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  Dadansoddiad o waith un o'r artistiaid a astudiwyd ar y modiwl. 2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  Dadansoddiad o waith un o'r artistiaid a astudiwyd ar y modiwl. 2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester .25 Awr   Cyflwyno Prosiect  Cyflwyniad hyd at 15 munud yn disgrifio prosiect creadigol yn seiliedig ar waith ymarferydd neu artist o ddewis y myfyriwr. .25 Awr  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

dadansoddi a mynegi dealltwriaeth o ymarfer artistiaid penodol o fewn cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.

mynegi dealltwriaeth eglur o waith artist o fewn cyd-destun hanesyddol, diwylliannol a chelfyddydol yn ysgrifenedig, ar lafar a/neu yn ymarferol.

cymhwyso egwyddorion ymarfer artist penodol ar gyfer mynegi gweledigaeth greadigol bersonol.

mynegi gweledigaeth greadigol annibynnol trwy lunio prosiect cysyniadol yn ei gyfanrwydd, ar arddangos dealltwriaeth o'r cysyniad trwy gyflwyno elfen ddethol.

Disgrifiad cryno

Trwy gyfrwng cyfres o astudiaethau achos wythnosol, bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ystod o arwyr gwahanol. Yn enwogion, yn artistiaid, yn berfformwyr ac yn ymarferwyr creadigol o nod, roeddent i gyd yn rai a dorrodd gwys newydd yn eu meysydd a’u disgyblaethau. Bydd y modiwl yn dadansoddi gyrfaoedd, gwaith ac nodweddion arddulliadol yr artistiaid yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol gwreiddiol, ac yn rhoi cyfle nid yn unig i astudio trawstoriad o wahanol ddisgyblaethau, ond hefyd i ystyried y rhagamodau sbardunodd yr angen iddynt gicio yn erbyn y tresi.

Bydd yr ‘arwyr’ yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn unol â newidiadau yn y tîm dysgu, ond gall y ffigyrau posib gynnwys: Josephine Baker, James Baldwin, Augusto Boal, David Bowie, David R. Edwards, Billie Holiday, Derek Jarman, Clifford McLucas, Lee Miller, Ai Wei Wei.

Cynnwys

.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Mynegi dealltwriaeth o ymarfer greadigol bersonol mewn perthynas â chyd-destun hanesyddol a diwylliannol penodol; mynegi dealltwriaeth o yrfaoedd creadigol mewn amgylchiadau cyfnewidiol a heriol.
Cydlynu ag erail Ymateb a chyfrannu i seminarau a gweithdai.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd yr aseiniadau yn annog myfyrwyr i ddiffinio, mynegi, a chyd-destunoli ymarfer greadigol bersonol mewn perthynas â meysydd proffesiynol penodol; bydd y modiwl yn mynnu bod myfyrwyr yn ystyried eu gwaith eu hunain a'u hymatebion i'r aseiniadau fel rhan o daflwybr gyrfaol posib.
Datrys Problemau Creadigol Mynegi dealltwriaeth o ymarfer greadigol bersonol mewn perthynas â disgwyliadau a phosibiliadau gyrfaol a gynigir gan ddiwydiannau creadigol cyfoes; gallu i leoli ymarfer personol o fewn cyd-destun cyfoes.
Gallu digidol Cyfleoedd i wneud defnydd o dechnoleg aml-gyfryngol o fewn yr aseiniadau.
Myfyrdod Adlewyrchu, mireinio a mynegi ymarfer greadigol bersonol, yn ysgrifenedig, ar lafar, a thrwy gyfrwng ymarfer bersonol.
Synnwyr byd go iawn Adnabod cyd-destun gyrfaol priodol, gan fynegi dealltwriaeth real o'r diwydiannau creadigol; lleoli ymarfer greadigol bersonol o fewn y cyd-destun hynny.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5