Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
MT11110
Teitl y Modiwl
Dadansoddi Mathemategol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Pre-Requisite
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (Arholiad Ysgrifenedig)  100%
Arholiad Semester 2 Awr   (Arholiad Ysgrifenedig)  80%
Asesiad Semester Gwaith Cwrs  Marc yn seiliedig ar bresenoldeb mewn darlithoedd a thiwtorialau ac aseiniadau a gyflwynir  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. darganfod setiau datrysiad ar gyfer anhafaleddau elfennol.

2. penderfynu a yw set o rifau real yn ffiniedig ai peidio.

3. penderfynu ar swpremwm ac inffimwm setiau ffiniedig.

4. disgrifio'r cysyniad o ddilyniannau o rifau real a phenderfynu a yw'r dilyniannau hynny'n gydgyfeiriol neu ddargyfeiriol.

5. defnyddio damcaniaethau safonol ar gydgyfeiriant dilyniannau.

6. defnyddio dilyniannau wedi'u diffinio gan berthynasau cylchol.

7. defnyddio'r profion sylfaenol ar gyfer cyfresi cydgyfeiriol.

8. disgrifio'r cysyniadau o ddidoriant a ddifferadwyedd ar gyfer ffwythiannau gwerth-real, a phenderfynu os yw ffwythiant gan y rhinweddau yma.

9. mynegi a defnyddio'r ddamcaniaeth gwerth cymedrig ar gyfer calcwlws differol, rheol L'Hopital, theorem Taylor a theorem Maclaurin.

Disgrifiad cryno

Cwrs cyntaf mewn Dadansoddi Mathemategol sy'n anelu at ateb rhai o'r cwestiynau sy'n cael eu hanwybyddu yn natblygiad calcwlws. Bydd y cysyniadau canolog o derfan a di-doriant yn cael eu cyflwyno a'u defnyddio i brofi'n fanwl rai o'r damcaniaethau sylfaenol mewn dadansoddi. Mae'r syniadau hyn yn chwarae rhan elfennol yn natblygiad mathemateg wedi hyn.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn anelu at ateb rhai o'r cwestiynau sy'n cael eu hanwybyddu yn natblygiad calcwlws. Bydd y cysyniadau canolog o derfan a di-doriant yn cael eu cyflwyno a'u defnyddio i brofi'n fanwl rai o'r damcaniaethau sylfaenol mewn dadansoddi. Bydd agweddau damcaniaethol y pwnc yn cael eu datblygu ar y cyd a'r technegau sydd eu hangen i ddatrys problemau.

Cynnwys

1. ANHAFALEDDAU: setiau datrysiadau i anahafaleddau cymharebol.
2. SETIAU FFINIEDIG: Arffin uchaf, arffin isaf, inffimwm, swpremwm.
Acsiom cyflawn i'r rhifau real.
3. DILYNIANNAU: Terfan o ddilyniant cydgyfeiriol o rifau real.
Deilliad ffurfiol o theoremau ar gyfer terfannau. Y theorem cyfyngu.
Dilyniannau y ddiffinir trwy perthnasau cylchol. Dilyniannau cynyddol a gostyngol, a'r theoremau cydgyfeiriant perthnasol. Y ffaith bod dilyniannau cydgyfeiriol yn ffiniedig. Is-ddilyniannau.
4. CYMWYSIADAU O'R CALCWLS DIFFEROL: Theorem Rolle. Theorem gwerth-cymedrig o'r calcwlws differol. Rheol L'Hopital. Theorem Taylor, theorem Maclaurin.
5. CYFRESI ANFEIDRAIDD: Swmiau rhannol. Y cydgyfeiriant o gyfresi anfeidraidd. Enghreifftiau o gyfresi cydgyfeiriol a ddargyfeiriol, yn cynnwys cyfresi geometreg. Profion ar gyfer cydgyfeiriant o gyfresi o dermau positif: prawf cymharu, prawf cymhareb, prawf integru.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Bydd cwblhau tasgau (aseiniadau) i'r terfynau amser a osodir yn cynorthwyo â datblygiad personol.
Cyfathrebu proffesiynol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir.
Datrys Problemau Creadigol Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau.
Gallu digidol Defnydd o Blackboard ac adnoddau rhyngrwyd.
Sgiliau pwnc penodol Mae’r modiwl yn datguddio myfyrwyr i bynciau mwy eang mewn mathemateg.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4