Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY36120
Teitl y Modiwl
Y Golygydd a Diwydiant Cyhoeddi Cymru
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio o dasgau  dwy dasg olygyddol (dewis llenyddol; creadigol; cyfoes); un dasg cywiro proflenni. 2000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Sylwebaeth feirniadol  Sylwebaeth feirniadol ar y portffolio o dasgau. 800- 1000 o eiriau  10%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Portffolio o dasgau  dwy dasg olygyddol (dewis llenyddol; creadigol; cyfoes); un dasg cywiro proflenni. 2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Sylwebaeth feirniadol  ar y portffolio o dasgau. 800-1000 o eiriau  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

dangos dealltwriaeth feirniadol o’r strwythurau a’r swyddogaethau sy’n cynnal diwydiant cyhoeddi Cymru, e.e. rôl y golygydd, rôl y prawf-ddarllenydd, rôl sefydliadau megis Cyngor y Celfyddydau, Cyngor Llyfrau Cymru, a gweisg annibynnol amrywiol Cymru.

medru dangos eu dealltwriaeth o broffiliau a hunaniaeth gweisg annibynnol Cymru a’u cloriannu’n feirniadol, e.e. Y Lolfa, Honno Gwasg Menywod Cymru, Barddas, Gomer, Rily, Y Dref Wen, Gwasg Carreg Gwalch, Atebol, ac ati.

medru trafod agweddau ar y diwydiant creadigol Cymreig yn briodol ac yn feirniadol.

caffael sgiliau penodol i’r diwydiant cyhoeddi a’u defnyddio yn gywir ac yn briodol: confensiynau golygyddol derbyniedig; golygu copi; prawf-ddarllen a marcio proflenni.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn darparu cyflwyniad i wahanol agweddau ar ddiwydiant creadigol proffesiynol Cymru, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau golygyddol a phrawf-ddarllen

Nod

Y rhesymeg dros y modiwl dewisol hwn yw darparu modiwl a fydd yn cyfoethogi’r dewis o fodiwlau creadigol a phroffesiynol a gynigir i fyfyrwyr Rhan 2, gyda golwg ar ddatblygu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy a fydd yn fanteisiol iddynt o safbwynt cyflogadwyedd. Mae’r modiwl hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a’r diwydiant cyhoeddi creadigol ehangach, gan gryfhau ein proffil am gydweithio.

Cynnwys

Nod y modiwl hwn yw rhoi trosolwg o’r diwydiant cyhoeddi creadigol cyfoes yng Nghymru a chyflwyno myfyrwyr i wahanol agweddau ar y diwydiant hwnnw mewn seminarau a gweithdai rhyngweithiol. Canolbwyntir ar sgiliau prawf-ddarllen a golygu: egwyddorion golygyddol a chysondeb; golygu testunau llenyddol; golygu creadigol (ffuglen); golygu copi (sgiliau a chonfensiynau marcio); a darllen proflenni.
Wrth ddilyn y rhaglen hon, gwneir yn fawr o arbenigedd golygyddol staff Adran y Gymraeg, cymuned greadigol yr Adran, a chysylltiadau’r Adran â sefydliadau ac unigolion perthnasol. E.e. Cyngor Llyfrau Cymru; gweisg a chyhoeddwyr annibynnol; cyrff ariannu. Nod y modiwl yw pontio cymuned greadigol Adran y Gymraeg Aberystwyth a’r diwydiant creadigol ehangach yng Nghymru gyfoes, a rhoi fframwaith proffesiynol i fyfyrwyr.

20 Gweithdy

Wythnosau 1–3
Sesiynau 1–6: treulir awr yr wythnos ar strwythur y diwydiant cyhoeddi ac awr yr wythnos yn cyflwyno sgiliau:
Strwythur y Diwydiant Cyhoeddi: rhagarweiniad i’r diwydiant cyhoeddi creadigol yng Nghymru; Cyngor Llyfrau Cymru (strwythur; cefnogaeth i weisg ac awduron; llyfrau plant; e-lyfrau; marchnata); gweisg Cymru (proffiliau, rhaglenni cyhoeddi; comisiynu ac ymgeisio am grantiau; llywio cyfrolau drwy’r wasg)
Sgiliau: egwyddorion golygyddol a chysondeb; ymarferion dan gyfarwyddyd.

Wythnos 4
Ymweliad â Chyngor Llyfrau Cymru

Wythnos 5
Golygu testunau llenyddol ac academaidd (hanesyddol a chyfoes); ymarferion dan gyfarwyddyd.

Wythnosau 6 & 7
Golygu copi; ymarferion dan gyfarwyddyd.

Wythnos 8
Golygu creadigol; ymarferion dan gyfarwyddyd

Wythnosau 9 & 10
Prawf-ddarllen; ymarferion dan gyfarwyddyd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio’n annibynnol er mwyn cyflawni’r tasgau, ac mae cyfathrebu yn rhan annatod o strwythur y modiwl, sef gweithdai rhyngweithiol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gofynnir i fyfyrwyr adfyfyrio ar eu perfformiad a’u datblygiad ar y modiwl hwn mewn sylwebaeth feirniadol sy’n cyd-fynd â’r portffolio o dasgau.
Datrys Problemau Cywirdeb wrth olygu copi, golygu creadigol, darllen a marcio proflenni
Gwaith Tim Mae nifer o’r sgiliau yn rhai personol ond bydd cyfle i fyfyrwyr drafod a gweithio gyda’i gilydd yn y gweithdai.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd yr ymarferion dan gyfarwyddyd yn gyfle i gael asesiad ffurfiannol; gofynnir am sylwebaeth feirniadol ar y portffolio o dasgau.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Dysgir sgiliau ymarferol a fydd yn ehangu cyflogadwyedd myfyrwyr yn y diwydiant cyhoeddi ac mewn gweithleoedd proffesiynol amrywiol eraill.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio rhaglenni megis Microsoft Office (Word, PowerPoint) wrth baratoi tasgau; disgwylir iddynt hefyd werthfawrogi pwysigrwydd Gwybodaeth Technoleg yn y diwydiant creadigol (e.e. rhaglenni cysodi, marchnata, gwefannau, e-lyfrau
Technoleg Gwybodaeth Gweler rhif 2, defnyddio Bwrdd du AberLearn. Defnyddio Word &c

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6