Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY30300
Teitl y Modiwl
Gweithdai Ysgrifennu Creadigol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Darlleniad creadigol (recordiad)  Bydd myfyrwyr yn cyflwyno recordiad a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol.  10%
Asesiad Ailsefyll Pecyn o dasgau (4 tasg)  Pecyn o dasgau creadigol ar ffurf barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau, sy’n deillio o’r gweithdai creadigol 4 tasg 900 o eiriau yr un (600 o eiriau creadigol & 300 o eiriau o sylwebaeth) Bydd myfyrwyr hefyd yn cyflwyno tasgau nas asesir yn Semester 1 ac yn derbyn adborth arnynt. 3600 o eiriau  90%
Asesiad Semester Pecyn o dasgau (4 tasg)  Pecyn o dasgau creadigol ar ffurf barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau, sy’n deillio o’r gweithdai creadigol; 4 tasg 900 o eiriau yr un (600 o eiriau creadigol & 300 o eiriau o sylwebaeth) Bydd myfyrwyr hefyd yn cyflwyno tasgau nas asesir yn Semester ac yn derbyn adborth arnynt. 3600 o eiriau  90%
Asesiad Semester Cymryd rhan mewn noson lenyddol  trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol.  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dangos y gallu i gynhyrchu darnau o waith creadigol gwreiddiol (ar ffurf barddoniaeth neu ryddiaith) sy’n ymateb yn greadigol ac yn ddeallusol i bynciau rhagosodedig y gweithdai.

2. Medru trafod eu gwaith yn feirniadol ac ymateb yn greadigol ac yn ddeallusol i adborth, ar papur (sylwebaeth feirniadol) ac ar lafar (yn ystod y gweithdy).

3. Arddangos sgiliau trefnu a chyflwyno addas ar gyfer y digwyddiad cyhoeddus, gan gynnwys cyflwyno a darllen eu gwaith i gynulleidfa.

4. Llunio pedwar darn o waith creadigol gorffenedig, ynghyd ag adroddiad hunanfyfyriol beirniadol arnynt, sy’n dangos sut y penderfynwyd ar ffurf derfynol y gwaith.

Disgrifiad cryno

Bydd gweithdai’r modiwl hwn yn gwneud dau beth: rhoi sylfaen theoretig gadarn i fyfyrwyr ym maes ysgrifennu creadigol a chynnig chyfle iddynt gymhwyso’r theori mewn ymarferion creadigol. Bydd dadansoddi a thrafod cynnyrch yr ymarferion yn rhan annatod o’r broses greadigol a golygyddol.

Mae’r modiwl hefyd yn gofyn i fyfyrwyr ddarparu sylwebaeth feirniadol hunanfyfyriol ar y pecyn creadigol a fydd yn cyd-destunoli’r gwaith trwy amlygu materion theoretig ac thechnegol, a thrwy sylwebu ar y prosesau creadigol goddrychol sydd ar waith.
Gan fod disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at noson lenyddol gyhoeddus, bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.

Cynnwys

Cynhelir cyfres o weithdai a fydd yn cynnwys cyflwyniad, ymarferion a thrafodaeth ar y pynciau canlynol:
• Creadigrwydd ac Ymchwil mewn Ysgrifennu Creadigol
• Ffurf a Strwythur:
• Rhyddiaith (ffurfiau estynedig a byrion; nofel – stori fer – llên meicro)
• Barddoniaeth (ffurfiau bach)
• Plot
• Disgrifio
• Safbwynt
• Pobl
• Llais: cyfansoddi a pherfformio
• Deialog
• Diwygio, golygu a chaboli testunau creadigol
Dosberthir canllawiau ysgrifenedig ar gyfer y sylwebaeth feirniadol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Llunio darn o waith creadigol; trafod y darn hwnnw yng nghyd-destun theoretig/thematig y gweithdy.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gweler rhif 4.
Datrys Problemau Ymateb i heriau technegol yr ymarferion creadigol unigol. Ymateb i feirniadaeth adeiladol.
Gwaith Tim Ceir cyfle i drafod mewn grwp yn ystod y gweithdai.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod drafftiau cynnar gyda thiwtor ysgrifennu creadigol; bydd y sylwebaeth feirniadol a lunnir ar gyfer pob tasg yn amlygu effaith y gweithdai trwy esbonio’r datblgyiad rhwng y drafftiau cynnar a’r darnau gorffenedig, gan gynnwys rhoi sylw i berfformiad a datblygiad personol.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn berthnasol i’r pwnc, a byddant o ddefnydd i fyfyrwyr sy’n dymuno gyrfa yn y diwydiant cyhoeddi creadigol.
Sgiliau ymchwil Ymchwilio a pharatoi dan o waith creadigol.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir Microsoft Office i gynhyrchu’r gwaith gorffenedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6