Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY20400
Teitl y Modiwl
Gweithdai Ysgrifennu Creadigol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Darlleniad creadigol (recordiad)  Cymryd rhan mewn noson lenyddol trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol.  10%
Asesiad Ailsefyll Pecyn o dasgau (4 Tasg)  4 o dasgau creadigol gwreiddiol (barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau) sy’n deillio o’r gweithdai creadigol: 900 o eiriau yr un (600 gair creadigol; 300 gair o sylwebaeth). Bydd myfyrwyr yn cael adborth hefyd ar dasgau creadigol nas asesir yn Semester 1 3600 o eiriau  90%
Asesiad Semester Pecyn o dasgau (4 tasg)  Pecyn o dasgau creadigol gwreiddiol (barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau) sy’n deillio o’r gweithdai creadigol; 4 tasg 900 gair (600 gair creadigol & 300 gair o sylwebaeth). Bydd myfyrwyr hefyd yn cyflwyno tasgau nas asesir yn Semester 1 ac yn cael adborth arnynt. 3600 o eiriau  90%
Asesiad Semester Cymryd rhan mewn noson lenyddol  Cymryd rhan mewn noson lenyddol trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol.  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos y gallu i gynhyrchu darnau o waith creadigol gwreiddiol (ar ffurf barddoniaeth neu ryddiaith) ar bynciau rhagosodedig y gweithdai.

Medru trafod eu gwaith yn feirniadol ac ymateb i adborth, ar papur (sylwebaeth feirniadol) ac ar lafar (yn ystod y gweithdy).

Arddangos sgiliau trefnu a chyflwyno addas ar gyfer y digwyddiad cyhoeddus, gan gynnwys cyflwyno a darllen eu gwaith i gynulleidfa.

Llunio pedwar darn o waith creadigol gorffenedig, yngnyd ag adroddiad hunanfyfyriol beirniadol arnynt, sy’n dangos sut y penderfynwyd ar ffurf derfynol y gwaith.

Disgrifiad cryno

Bydd gweithdai’r modiwl hwn yn gwneud dau beth: rhoi sylfaen theoretig gadarn i fyfyrwyr ym maes ysgrifennu creadigol a chynnig chyfle iddynt gymhwyso’r theori mewn ymarferion creadigol. Bydd dadansoddi a thrafod cynnyrch yr ymarferion yn rhan annatod o’r broses greadigol a golygyddol.
Mae’r modiwl hefyd yn gofyn i fyfyrwyr ddarparu sylwebaeth feirniadol hunanfyfyriol ar y pecyn creadigol a fydd yn cyd-destunoli’r gwaith trwy amlygu materion theoretig ac thechnegol, a thrwy sylwebu ar y prosesau creadigol goddrychol sydd ar waith.
Gan fod disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at noson lenyddol gyhoeddus, bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.

Nod

Crëwyd y modiwl hwn er mwyn rhoi sylfaen theoretig gadarn i fyfyrwyr ym maes ysgrifennu creadigol a chyfle iddynt gymhwyso’r theori mewn ymarferion creadigol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.

Cynnwys

Cynhelir cyfres o seminarau er mwyn cyflwyno a thrafod pob un o’r ffurfiau isod, ynghyd ag ymarfer eu hysgrifennu naill ai’n unigol, mewn parau neu fel grŵp:
1. Barddoniaeth rydd
2. Darnau rhyddiaith byr
3. Y diwydiant Ysgrifennu Creadigol
4. Limrigau a thribannau
5. Llenyddiaeth ecffrastig
6. Llenyddiaeth epistolaidd/hapgael
7. Sgriptio
8. Deialog
9. Llais: cyfansoddi a pherfformio
10. Llunio stori: cynllun, cymeriadau, safbwyntia

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Llunio darn o waith creadigol; trafod y darn hwnnw yng nghyd-destun theoretig/thematig y gweithdy.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gweler rhif 4.
Datrys Problemau Ymateb i heriau technegol yr ymarferion creadigol unigol. Ymateb i feirniadaeth adeiladol.
Gwaith Tim Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod y gweithdai.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod drafftiau cynnar gyda thiwtor ysgrifennu creadigol; bydd y sylwebaeth feirniadol a lunnir ar gyfer pob tasg yn amlygu effaith y gweithdai trwy esbonio’r datblgyiad rhwng y drafftiau cynnar a’r darnau gorffenedig, gan gynnwys rhoi sylw i berfformiad a datblygiad personol.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn berthnasol i’r pwnc, a byddant o ddefnydd i fyfyrwyr sy’n dymuno gyrfa yn y diwydiant cyhoeddi creadigol.
Sgiliau ymchwil Ymchwilio a pharatoi dan o waith creadigol
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir Microsoft Office i gynhyrchu’r gwaith gorffenedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5