Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
ADM2920
Teitl y Modiwl
Arwain a Rheoli ADY
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Testun cyfunol  4000 Words  100%
Asesiad Semester Testun cyfunol  4000 Words  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Archwilio’n feirniadol swyddogaethau a chyfrifoldebau penodol y CADY ac effaith hyn ar staff, plant a’u teuluoedd.

Gwerthuso gwaith partneriaeth effeithiol yng nghyd-destun ADY, a dangos ymwybyddiaeth feirniadol o’r buddion a’r heriau.

Datblygu cynllun strategol i weithredu ymyriadau a strategaethau priodol i gefnogi ADY yn eu cyd-destunau.

Gwerthuso dulliau arwain a rheoli ADY yn effeithiol yn y lleoliad cyfan.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau hyfforddi ac arwain sydd eu hangen i fod yn Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) effeithiol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg. Bydd angen myfyrio’n fanwl ar feysydd o gryfder personol a meysydd i’w datblygu ar gyfer y modiwl. Defnyddir astudiaethau achos i archwilio swyddogaethau a chyfrifoldebau’r CADY mewn cysylltiad â phlant, teuluoedd a gweithio’n rhyngbroffesiynol. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ddangos gwybodaeth fanwl am strategaethau ymyrryd priodol ar gyfer y lleoliad cyfan i gefnogi’r rhai hynny ag ADY.

Nod

1. Datblygu dealltwriaeth fanwl o swyddogaeth y CADY a’r fframwaith statudol, gan gydnabod cymhlethdodau’r swyddogaeth;

2. Gwahaniaethu rhwng materion allweddol sy’n ymwneud â gweithio gydag eraill a’u dadansoddi, e.e. gweithio mewn partneriaeth â’r tîm amlddisgyblaethol a gweithio’n rhyngbroffesiynol;

3. Archwilio a gwerthuso’r gwaith o gynllunio a threfnu ymyriadau a strategaethau ar gyfer cefnogi ADY a chynhwysiant yn unol â safonau proffesiynol cydnabyddedig;

4. Archwilio’n feirniadol egwyddorion ac arferion allweddol cydraddoldeb ac amrywiaeth ym maes ADY a chynhwysiant.

Cynnwys

  • Defnyddio astudiaethau achos i archwilio a nodi swyddogaethau a chyfrifoldebau’r CADY;
  • Sefydlu cyd-destun polisi ADY yng Nghymru a’r goblygiadau i’r CADY.
  • Nodi enghreifftiau o weithio’n effeithiol gydag eraill – gan gynnwys plant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol (buddion a heriau);
  • Archwilio ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rhai hynny ag ADY;
  • Nodi ac archwilio sgiliau cynllunio a threfnu;
  • Dulliau ac arddulliau arwain, rheoli, hyfforddi a mentora;
  • Gwahanol safbwyntiau o ran cynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn deddfwriaeth ADY;
  • Myfyrio ar gryfderau personol a meysydd i’w datblygu.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Cyfathrebu proffesiynol Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Datrys Problemau Creadigol Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Sgiliau Pwnc-benodol Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.
Synnwyr byd go iawn Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol Drwy gydol y modiwl, caiff myfyrwyr eu hannog: a. I ddod i gasgliadau ynghylch eu harfer eu hunain er mwyn iddynt fod yn fwy hyderus

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7