Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
ADM2420
Teitl y Modiwl
Archwilio Addysgeg
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Myfyrdod beirniadol  Myfyrio’n feirniadol ar weithredu ymyriad addysgu arloesol a’r myfyrwyr i ddangos tystiolaeth o effeithiolrwydd /effaith 4000 Words  100%
Asesiad Semester Myfyrdod beirniadol  Myfyrio’n feirniadol ar weithredu ymyriad addysgu arloesol a’r myfyrwyr i ddangos tystiolaeth o effeithiolrwydd /effaith 4000 Words  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Archwilio safbwyntiau a dadleuon rhyngwladol amrywiol ynghylch yr egwyddorion addysgegol allweddol sy’n sylfaen i ddysgu ac addysgu effeithiol ar draws gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysgol.

Gwerthuso’n feirniadol ddamcaniaethau dysgu er mwyn llywio ymarferion addysgegol a gwerthuso’r rhai sydd fwyaf effeithiol ar gyfer cyflawni ystod eang o ddeilliannau dysgwyr.

Ymestyn, dyfnhau, gwerthuso a chymhwyso, pan fo’n briodol, eu gwybodaeth am theori ac ymchwil addysgegol i’w lleoliadau a’u cyd-destunau proffesiynol eu hunain.

Asesu’n feirniadol y datblygiadau ymchwil rhyngwladol mawr ym meysydd dysgu ac addysgeg er mwyn llywio eu hymarfer proffesiynol

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn archwilio safbwyntiau a dadleuon rhyngwladol amrywiol ynghylch yr egwyddorion addysgegol sy’n sylfaen i ddysgu ac addysgu effeithiol mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysg. Bydd myfyrwyr yn gwerthuso’n feirniadol ddamcaniaethau dysgu a byddant yn archwilio’r dulliau addysgegol yr ystyrir eu bod y rhai mwyaf effeithiol ar gyfer cyflawni ystod eang o ddeilliannau dysgwyr. Cynlluniwyd y modiwl i alluogi myfyrwyr i ymestyn, dyfnhau, gwerthuso a chymhwyso’u gwybodaeth am theori ac ymchwil addysgegol i’w lleoliadau a’u cyd-destunau proffesiynol eu hunain. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dulliau egwyddorol a gwybodus o ran ymarfer addysgegol ac yn cefnogi eu hymholiad i wahanol fathau o ymarfer addysgegol.

Nod

1. Archwilio safbwyntiau a dadleuon rhyngwladol amrywiol ynghylch yr egwyddorion addysgegol allweddol sy’n sylfaen i ddysgu ac addysgu effeithiol ar draws gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysgol.

2. Gwerthuso’n feirniadol ddamcaniaethau dysgu er mwyn llywio ymarferion addysgegol a gwerthuso’r rhai sydd fwyaf effeithiol ar gyfer cyflawni ystod eang o ddeilliannau dysgwyr.

3. Galluogi myfyrwyr i ymestyn, dyfnhau, gwerthuso a chymhwyso, pan fo’n briodol, eu gwybodaeth am theori ac ymchwil addysgegol i’w lleoliadau a’u cyd-destunau proffesiynol eu hunain.

4. Annog myfyrwyr i asesu’n feirniadol y datblygiadau ymchwil rhyngwladol mawr ym meysydd dysgu ac addysgeg er mwyn llywio eu hymarfer proffesiynol

Cynnwys

  • Dadleuon rhyngwladol ynghylch yr egwyddorion addysgegol allweddol sy’n sylfaen i ddysgu ac addysgu effeithiol mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysg.
  • Damcaniaethau dysgu sy’n llywio ymarferion addysgegol a safbwyntiau cyfoes ynghylch damcaniaeth dysgu.
  • Theori ac ymchwil addysgegol mewn lleoliadau a chyd-destunau proffesiynol.
  • Datblygiadau ymchwil rhyngwladol ym meysydd dysgu ac addysgeg
  • Diffiniadau o addysgeg; ystyried addysgeg sy’n berthnasol i bwnc/maes a’r berthynas rhwng addysgeg benodol a chyffredinol.
  • Ymgysylltu â llenyddiaeth ryngwladol ynghylch gwybodaeth bynciol a Gwybodaeth Cynnwys Addysgegol ar gyfer dysgu ac addysgu ar wahanol lefelau a gyda grwpiau penodol o ddysgwyr.
  • Ystyried swyddogaeth addysgeg Gymraeg ar draws y cwricwlwm ac ar draws y continwwm dysgu cyfan.
  • Addysgeg ymarfer a rennir; dulliau ysgol gyfan o wella dysgu ac addysgu.
  • Systemau olrhain a monitro, gan gynnwys gwerthuso cynnydd y dysgwyr, ystyried rhwystrau posibl i ddysgu gan gynnwys effeithiau lles personol a chymdeithasol; rhywedd; cydnabod grwpiau o blant sy’n agored i niwed; archwilio ymarferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n ymwneud â thlodi a chyrhaeddiad.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Cyfathrebu proffesiynol Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Datrys Problemau Creadigol Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Sgiliau Pwnc-benodol Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.
Synnwyr byd go iawn Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7