Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
ADM2120
Teitl y Modiwl
Ymarfer wedi'i Lywio gan Dystiolaeth
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd  4000 Words  100%
Asesiad Semester Traethawd  4000 Words  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Gwerthuso’r gwahanol ffyrdd o gyflwyno a chyhoeddi tystiolaeth.

Dadansoddi a chyfosod tystiolaeth empirig berthnasol, gan gynnwys llenyddiaeth ryngwladol a dogfennau polisi.

Archwilio sut y mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn llywio ymddygiad ac ymarfer proffesiynol.

Dadansoddi’r gwahanol ffyrdd o gynhyrchu, defnyddio ac archwilio tystiolaeth mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysg.

Archwilio a dehongli tystiolaeth ryngwladol mewn ffyrdd ystyrlon a moesegol.

Gwerthuso’n feirniadol y ffyrdd y gall defnydd tystiolaeth lywio hunaniaeth broffesiynol a chysylltiadau cydweithredol.

Arfarnu’n feirniadol sut y gall tystiolaeth lywio a newid arfer proffesiynol.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn archwilio’r gwahanol ffyrdd y caiff tystiolaeth ei chyflwyno a’i chyhoeddi a bydd yn edrych ar sut y mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn llywio ymddygiad ac ymarfer proffesiynol. Bydd y modiwl yn ystyried y gwahanol ffyrdd y caiff tystiolaeth ei chynhyrchu, ei defnyddio a’i harchwilio mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysgol. Bydd yn edrych ar sut y gall gweithwyr addysg proffesiynol gael gafael ar dystiolaeth ryngwladol a’i dehongli a sut y gallant ymgysylltu’n ystyrlon ac yn foesegol â gwahanol fathau o dystiolaeth. Bydd y modiwl yn archwilio’r ffyrdd y gall y defnydd o dystiolaeth lywio hunaniaeth broffesiynol a chysylltiadau cydweithredol. Bydd yn archwilio sut y gall tystiolaeth lywio ymarfer a chynorthwyo gweithwyr proffesiynol i fyfyrio ar eu hymarfer.

Nod

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i archwilio’n feirniadol y swyddogaeth y mae tystiolaeth yn ei chwarae mewn ymarfer proffesiynol, o ran llywio arfarniadau proffesiynol, cefnogi arfer myfyriol a chynnal arloesed a newid. Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddangos cymhwysiad beirniadol ac arfarniad beirniadol o wahanol fathau o dystiolaeth.

Cynnwys

1. Sut y mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn cael eu llunio, eu cyflwyno a’u cyhoeddi.

2. Ymgysylltu â gwahanol fathau o dystiolaeth empirig, gan gynnwys llenyddiaeth ryngwladol a dogfennau polisi.

3. Archwilio newidiadau mewn ymddygiad ac ymarfer proffesiynol.

4. Arfarniad beirniadol o sut y mae gwahanol fathau o dystiolaeth yn effeithio ar wybodaeth ac ymarfer proffesiynol

5. Archwilio a dehongli tystiolaeth ryngwladol mewn ffyrdd ystyrlon a moesegol.

6. Sut y gall tystiolaeth lywio hunaniaeth broffesiynol a chysylltiadau cydweithredol.

7. Llywio a newid ymarfer proffesiynol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Cyfathrebu proffesiynol Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Datrys Problemau Creadigol Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Sgiliau Pwnc-benodol Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.
Synnwyr byd go iawn Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7