Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
ADM2020
Teitl y Modiwl
Addysgeg ac Ymarfer
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Myfyrdod a chyflwyniad strwythuredig  4000 Words  100%
Asesiad Semester Myfyrdod a chyflwyniad strwythuredig  4000 Words  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Archwilio’n feirniadol addysgu effeithiol a chysyniadau, modelau a damcaniaethau addysgeg allweddol.

Arfarnu’n feirniadol wybodaeth addysgeg gyfoes a damcaniaethau dysgu allweddol.

Gwerthuso, dethol a chymhwyso strategaethau dysgu ac addysgu priodol i sefyllfaoedd dysgu penodol.

Dehongli a gweithredu ar amrywiaeth o ddata ynglŷn â dysgu a dysgwyr.

Myfyrio ar eu harferion addysgeg eu hunain a’r cyfleoedd addysgu yn y dyfodol yn eu cyd-destun proffesiynol eu hunain.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar archwilio’n feirniadol addysgu effeithiol a bydd yn archwilio cysyniadau, modelau a damcaniaethau addysgeg allweddol. Bydd y modiwl yn cynnig gwybodaeth addysgeg gyfoes a bydd yn cysylltu damcaniaethau dysgu allweddol ag ymarferion proffesiynol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i werthuso, dethol a chymhwyso’r strategaethau dysgu ac addysgu priodol i sefyllfaoedd dysgu penodol. Bydd yn rhoi’r sgiliau iddynt ddadansoddi a dehongli amrywiaeth o ddata ynghylch dysgu a dysgwyr. Bydd y modiwl yn cefnogi cyfranogwyr i fyfyrio’n bwrpasol ar eu harferion addysgeg eu hunain a’r cyfleoedd addysgu yn eu cyd-destunau proffesiynol yn y dyfodol.

Nod

1. Galluogi myfyrwyr i ddadansoddi a gwerthuso eu harferion addysgeg eu hunain a’u sgiliau proffesiynol ehangach.

2. Adolygu’n feirniadol dystiolaeth ymchwil ynghylch athroniaethau, damcaniaethau allweddol, modelau ymarfer fel y maent yn berthnasol i addysgeg.

3. Archwilio’r berthynas rhwng theori, polisi ac ymarfer mewn cysylltiad ag arfer proffesiynol ac addysgeg.

4. Hybu datblygiad o’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau addysgeg sy’n addas ar gyfer eu cyd-destunau eu hunain.

5. Galluogi myfyrwyr i fyfyrio’n feirniadol ar strategaethau addysgeg allweddol a fydd yn llywio eu harferion addysgeg a’u cyfleoedd addysgu eu hunain yn y dyfodol yn eu cyd-destun proffesiynol.

Cynnwys

  • Archwilio’r term ‘addysgeg’ a sut y caiff ei ddeall yn rhyngwladol.
  • Polisi, ymchwil a theori gyfredol sy’n sylfaen i addysgeg ac arferion proffesiynol.
  • Cymhwyso strategaethau addysgeg gwahanol i ysgogi a chymell dysgwyr amrywiol.
  • Archwilio effaith yr amgylchedd dysgu ar ymarfer cynhwysol yn yr ystafell ddosbarth o ran cefnogi dysg a chymhelliant myfyrwyr.
  • Y ffactorau sy’n effeithio ar ymgysylltiad dysgwyr a chyrhaeddiad dysgwyr mewn llythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol, Cymraeg a’r sgiliau ehangach.
  • Integreiddio technolegau newydd er mwyn trawsnewid addysgeg a phrofiadau dysgwyr
  • Dulliau newydd o asesu, gwerthuso, a chynllunio’r cwricwlwm ac arferion addysgeg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Cyfathrebu proffesiynol Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Datrys Problemau Creadigol Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Sgiliau Pwnc-benodol Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.
Synnwyr byd go iawn Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7