Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD30620
Teitl y Modiwl
Hawliau Plant
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Aseiniad ysgrifenedig 1  2000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad ysgrifenedig 2  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Aseiniad ysgrifenedig 1  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Aseiniad ysgrifenedig 2  2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. ​Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth effeithiol o'r cefndir cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol i'r diffiniadau presennol o hawliau plant.

2. Adolygu'n feirniadol a thrafod y cysyniadau, y dadleuon a'r egwyddorion sy'n ymwneud â hawliau plant.

3. Archwilio'n feirniadol ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â hawliau plant.

4. Dangos cysylltiad beirniadol â deunydd ffynhonnell perthnasol.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddeall hawliau plant mewn theori ac yn ymarferol. Mae'r modiwl yn archwilio'r ddamcaniaeth sy'n sail i wahanol safbwyntiau ar hawliau plant ac yn canolbwyntio ar fesurau ymarferol i hyrwyddo hawliau plant, ac yn ceisio gwerthuso eu heffaith ar fywydau plant.

Cynnwys

Bydd darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar y canlynol:

Darlith a seminar 1: Ystyron hawliau plant

Darlith a seminar 2: Datblygiadau diweddar mewn polisi ac arfer – confensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Darlith a seminar 3: Agenda hawliau plant a hyrwyddo hawliau plant

Darlith a seminar 4: Mecanweithiau ar gyfer cynrychioli hawliau plant o fewn Llywodraeth

Darlith a seminar 5: Deddf Plant

Darlith a seminar 6: Rolau a chyfrifoldebau oedolion

Darlith a seminar 7: Hawliau a chyfrifoldebau mewn addysg

Darlith a seminar 8: Hawliau plant anabl

Darlith a seminar 9: Gwasanaethau i blant

Darlith a seminar 10: Y broses llys

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy ddarlithoedd a seminarau. Cyfathrebu llafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol asesiadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Heb ei ddatblygu yn y modiwl hwn.
Datrys Problemau Elfen hanfodol yn y broses o asesu beirniadol.
Gwaith Tim Mae gweithgareddau'r seminar yn rhoi llawer o gyfleoedd i weithio fel tîm, gan gynnwys cyflwyniadau a thrafodaethau grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae adborth o aseiniad ysgrifenedig a myfyrdod personol yn ystod tasgau seminar yn annog perfformiad gwell.
Rhifedd Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Mae angen ymchwil ar gyfer y prif asesiadau a rhai o dasgau'r seminar.
Technoleg Gwybodaeth Dylai aseiniadau ysgrifenedig gael eu prosesu â geiriau ac mae un o dasgau'r seminar yn gofyn am ddatblygu cyflwyniad PowerPoint.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6