Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD20600
Teitl y Modiwl
Gweithio Gyda Phlant
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio wedi'u seilio ar leoliad (au)  2400 o eiriau  60%
Asesiad Ailsefyll Llyfryddiaeth wedi'i anodi  sydd yn defnyddio o leiaf 10 eitem ar bwnc penodol 1600 o eiriau  40%
Asesiad Semester Portffolio wedi'u seilio ar leoliad (au)  2400 o eiriau  60%
Asesiad Semester Llyfryddiaeth wedi'i anodi  sydd yn defnyddio o leiaf 10 eitem ar bwnc penodol 1600 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

​1. Gwerthuso'n feirniadol y dulliau o weithio gyda phlant ac ymarferwyr.

2. Trafod yn feirniadol ddulliau o weithio gyda phlant.

3. Archwilio'n feirniadol safbwyntiau moesegol ynghylch gweithio gyda phlant.

4. Gwerthuso adnoddau sydd ar gael i ymarferwyr er mwyn cefnogi dysgu proffesiynol.​

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr amrywiaeth o fewnwelediadau i agweddau perthnasol ac angenrheidiol ar weithio gyda phlant. Bydd disgwyl i fyfyrwyr feithrin gwybodaeth am y cysyniadau allweddol sy'n ganolog i weithio gyda phlant a bydd disgwyl iddynt archwilio ystod o ddulliau o astudio arferion mewn gwahanol leoliadau addysgol. Bydd yn ofynnol i bob myfyriwr sy'n dewis cymryd y modiwl hwn dalu am wiriad DBS.

Cynnwys

Darlith a seminar 1: Cyfathrebu effeithiol
Darlith a seminar 2: Ymgysylltu a phlant
Darlith a seminar 3: Gweithio gyda theuluoedd
Darlith a seminar 4: Arweinyddiaeth a gwaith tim
Darlith a seminar 5: Creu amgylchedd dysgu
Darlith a seminar 6: Dulliau ymchwil a moeseg ymchwil
Darlith a seminar 7: Amrywiaeth ddiwylliannol
Darlith a seminar 8: Dulliau'r cwricwlwm
Darlith a seminar 9: Adnabod a defnyddio strwythurau cymorth cymunedol
Darlith a seminar 10: TGCh: offer ar gyfer dysgu effeithiol mewn lleoliadau plentyndod

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol yn y darlithoedd a’r seminarau. Cyfathrebu llafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol asesiadau ysgrifenedig. Mae angen cymhwyso safonau uchel o lythrennedd ar leoliadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cyfleoedd i weithio mewn lleoliad addysgol.
Datrys Problemau Elfen hanfodol yn y broses o asesu beirniadol.
Gwaith Tim Mae gweithgareddau'r seminar yn rhoi llawer o gyfleoedd i weithio fel tîm, gan gynnwys cyflwyniadau a thrafodaethau grŵp. Mae angen gwaith tîm hefyd ar leoliad.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae adborth o aseiniad ysgrifenedig a myfyrdod personol yn ystod tasgau seminar yn annog perfformiad gwell. Mae angen myfyrio ar brofiad lleoliad ar gyfer asesiad.
Rhifedd Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. Cymhwyso rhif yn ofynnol ar leoliad.
Sgiliau pwnc penodol 1. Cynllunio gweithgareddau dysgu a gofal. 2. Myfyrio ar ymarfer.
Sgiliau ymchwil Mae angen ymchwil ar gyfer y prif asesiadau a rhai o dasgau'r seminar.
Technoleg Gwybodaeth Dylai aseiniadau ysgrifenedig gael eu cyflwyno’n electronig ac mae un o dasgau'r seminar yn gofyn am ddatblygu cyflwyniad PowerPoint. Mae angen cymhwyso technoleg ar leoliad.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5