Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD13620
Teitl y Modiwl
Sgiliau Allweddol i Brifysgol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio sgiliau allweddol  1200 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Prosiect gwaith grŵp:  a) Taflen A4, wedi ei greu yn rhan o dîm, yn trafod sut i ddatblygu 'sgil allweddol' ar gyfer myfyrwyr is-raddedig (25% o farc y prosiect). b) Gwerthusiad 1,000 o eiriau o arferion gwaith grŵp (75% o farc y prosiect)  50%
Asesiad Semester Portffolio sgiliau allweddol  1200 o eiriau  50%
Asesiad Semester Prosiect gwaith grŵp:  a) Taflen A4, wedi ei greu yn rhan o dîm, yn trafod sut i ddatblygu 'sgil allweddol' ar gyfer myfyrwyr is-raddedig (25% o farc y prosiect). b) Gwerthusiad 1,000 o eiriau o arferion gwaith grŵp (75% o farc y prosiect)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos cymhwysedd mewn sgiliau academaidd a throsglwyddadwy allweddol.

Nodi ffyrdd o wella dysgu personol.

Deall a gwerthuso'r materion allweddol sy'n ymwneud a gwaith grwp.

Deall egwyddorion allweddol cyfathrebu ac arweinyddiaeth.

Dangos y gallu i weithio'n effeithiol ag eraill.

Bod yn hunan-fyfyriol o safbwynt sgiliau astudio a sgiliau trosglwyddadwy.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn dechrau trwy amlinellu'r prif sgiliau astudio y bydd gofyn i'r myfyrwyr eu datblygu. Bydd y rhain yn cynnwys cyfeirio, ysgrifennu traethodau, defnyddio ffynonellau academaidd, rheoli amser, gwerthuso'n feirniadol, cyflwyniad i ymchwil a defnydd effeithiol a derbyniol o ddeallusrwydd artiffisial. Bydd y modiwl yn canolbwyntio hefyd ar sgiliau trosglwyddadwy allweddol, gan gynnwys gweithio mewn grŵp, arweinyddiaeth, a chyfathrebu (a fydd yn berthnasol i DPP a chynllunio gyrfaoedd y myfyrwyr).

Nod

Darparu'r sgiliau astudio sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gwblhau aseiniadau academaidd ac arholiadau yn y brifysgol.
Galluogi myfyrwyr i weithio'n effeithiol mewn grwpiau.
Cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy allweddol i'r myfyrwyr.
Galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau hunan-fyfyrio a gwerthuso.

Cynnwys

Bydd darlithoedd a seminarau ar gyfer y modiwl hwn yn seiliedig ar y themâu canlynol:
- Cyfeirnodi a Llên-ladrad
- Dod o hyd i ffynonellau academaidd a'u gwerthuso, a defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) yn foesegol ac yn effeithlon
- Ysgrifennu academaidd a chynllunio traethodau
- Meddwl yn feirniadol a gwerthuso
- Sylfeini Ymchwil
- Theori gwaith grŵp
- Gwaith grŵp ar waith
- Sgiliau proffesiynol a chyflogadwyedd
- Sgiliau cyflwyno, cyfathrebu ac arwain
- Ymarfer dysgu

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Datblygir sgiliau cyflwyno llafar trwy drafodaethau yn y dosbarth a chyflwyniad a asesir. Datblygir sgiliau ysgrifennedig drwy'r aseiniadau. Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu'r sgiliau i gyfathrebu i wahanol gynulleidfaoedd trwy ddatblygu'r daflen.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y myfyrwyr yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys rheoli amser, gwaith tim, cyfathrebu, a sgiliau gwerthuso. Bydd y rhain yn cael eu hymgorffori i'r darlithoedd a'r seminarau ac yn cael eu hasesu fel agwedd greiddiol o'r modiwl.
Datrys Problemau Bydd y myfyrwyr yn dadansoddi ffynonellau a thestunau amrywiol fel rhan o'u gwaith portffolio a'r prosiect grwp. Bydd gweithgareddau datrys problemau yn rhan o'r dalithoedd.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i weithio mewn grwpiau fel rhan o aseiniad y prosiect gwaith grwp. Hefyd, bydd pob seminar yn cynnwys elfen o waith grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd gofyn i'r myfyrwyr arwain eu hastudiaethau eu hunain o safbwynt y darllen ehangach a pharatoi ar gyfer yr aseiniad. Bydd mynychu'r sesiynau yn gwella ystod o sgiliau dysgu. Bydd y myfyrwyr yn myfyrio ynglyn a gwellianau i'w dysgu eu hunain mewn aseiniadau portffolio a chyflwyniadau.
Rhifedd Mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dadansoddi data rhifyddol wrth ymchwilio ar gyfer eu haseniadau.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i gyfleu arferion a chyd-destunau addysgiadol i gynulleidfaoedd/dysgwyr amrywiol. Asesir hyn yn rhannol trwy'r daflen sgiliau astudio a ddatblygir. Fel rhan o'r sesiynau i baratoi ar gyfer arholiadau, edrychir ar gyd-destunau modiwlau eraill.
Sgiliau ymchwil Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i wneud ymchwil annibynol ar gyfer eu haseiniadau. Ceir sesiynau ar sut i gasglu gwybodaeth yn effeithiol o fewn y modiwlau.
Technoleg Gwybodaeth Bydd y myfyrwyr yn datblygu cymhwysedd wrth ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth electronig trwy ffynonellau llyfryddiaethol ac ar y we. Byddant hefyd yn dysgu sut i ddefnydio deallusrwydd artiffisial mewn modd effeithiol a chywir. Bydd aseiniadau 2 a 3 yn cael eu cyflwyno ar ffurf dogfennau a luniwyd ar brosesydd geiriau; bydd angen defnyddio meddalwedd dylunio priodol ar gyfer aseiniad 3. Bydd angen defnyddio PowerPoint ar gyfer aseiniad 4.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4