Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr ARHOLIAD CAEEDIG 3 CHWESTIWN | 60% |
Asesiad Semester | 1 TRAETHAWD X 2,500 O EIRIAU, 1 TRAETHAWD X 4,000 O EIRIAU | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Disgrifio ac asesu datblygiadau gwleidyddol ym Mhrydain yn ystod yr ugeinfed ganrif;
Nodi ac esbonio newid a dilyniant gwleidyddol Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif;
Gwerthuso'r gwahanol ffactorau a ddylanwadodd ar lywodraethau a phleidiau gwleidyddol ym Mhrydain yn ystod yr ugeinfed ganrif;
Trafod dadleuon hanesyddol gyda hyder cynyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar;
Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol mewn ffordd feirniadol a deallus.
Disgrifiad cryno
Mae'r cwrs hwn yn cynnig rhagymadrodd i hanes gwleidyddol Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae'r arolygu'r prif ddatblygiadau gwleidyddol sydd wedi ffurfio Prydain yn y can mlynedd ddiwethaf ac mae'r eu lleoli nhw yn y cyd-destun ehangach o hanes economaidd, cymdeithasol a rhyngwladol Prydain. Bydd y cwrs yn archwilio'r trefniant a defnydd p'rr gwleidyddol ym Mhrydain fodern; dylanwad pwysau oddi isod ac oddi allan i Brydain ar ei llywodraethau a'r phleidiau gwleidyddol; a'r canlyniadau o benderfyniadau a gweithredoedd gwleidyddol ar fywydau pobl gyffredin. Trwy gydol y cwrs, canolbwyntir ar y cwestiynau yngl'r a newid a dilyniant ac anogir y myfyrwyr i gwestiynu'r ffactorau sylfaenol o'r newid gwleidyddol o fewn cymdeithas fodern.
Nod
Bydd y modiwl yn llenwi bwlch pwysig oddi fewn maes Hanes drwy'r Gymraeg yn Rhan Dau. Cyflwynir y myfyrwyr i rai o brif ddatblygiadau hanes modern Prydain ac ystyrir rhai o'r materion hanesyddol pwysicaf a ffurfiodd Prydain yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Cynnwys
2. Yr Etifeddiaeth Fictorianaidd
3. T'r y Blaid Lafur
4. Diwygiadau Rhyddfrydwyr yr Oes Edwardiaidd
5. Y Rhyfel Byd Cyntaf
6. Yr Ymgyrch dros Bleidlais i Ferched
7. Y Dirwasgiad Economaidd rhwng y Rhyfeloedd
8. Ffasgaeth yn ystod y Tridegau
9. Yr Ail Ryfel Byd
10. Creadigaeth y Wladwriaeth Les
11. Cwymp yr Ymerodraeth Brydeinig
12. Awdurdod y Ceidwadwyr, 1951-64
13. Cenedlaetholdeb Celtaidd
14. Gogledd Iwerddon
15. I Mewn i Ewrop: Prydain ac undeb Ewropeaidd
16. Diwedd y Consenws Gwleidyddol?: Prydain yn ystod y Saithdegau
17. Thatcher a Th'r y Dde Newydd
18. Chwalu y Deyrnas Unedig?: Datganoli ar Ddiwedd y Ganrif
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir y fedr hon trwy gyfrwng y ddau draethawd a thrwy drafodaethau?r seminar. Disgwylir, yn ogystal, i?r myfyrwyr wneud cyflwyniadau yn y seminarau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r traethodau. Ni asesir y cyflwyniadau ond rhoddir ymateb i?r myfyrwyr. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau ysgrifenedig a llafar. Bydd yn helpu?r myfyrwyr i ddatblygu sgiliau pwysig eraill, gan gynnwys gwneud ymchwil, asesu gwybodaeth ac ysgrifennu mewn ffordd ffurfiol. |
Datrys Problemau | Disgwylir i?r myfyrwyr nodi ac ymateb i broblemau hanesyddol a gwneud ymchwil addas cyn y seminarau a chyn ysgrifennu?r traethodau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r traethodau. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda?i gilydd cyn, ac yn ystod, y seminarau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y traethodau yn cael eu dychwelyd mewn cyfweliadau traethawd a nodir camgymeriadau yngl?n ag arddull a chynnwys. Anogir myfyrwyr i wella eu sgiliau ysgrifenedig a?u sgiliau cyfathrebu. Ni asesir y fedr hon. |
Rhifedd | Cyflwynir y myfyrwyr i rai ystadegau sylfaenol yn y darlithiau, gan gynnwys ystadegau etholiadau, ac asesir y medrau hyn fel rhan o?r traethodau lle mae?n addas. |
Sgiliau pwnc penodol | Sgiliau Beirniadol Hanesyddol |
Sgiliau ymchwil | Datblygir hyn trwy?r ymchwil bydd y myfyrwyr yn ei wneud cyn y seminarau a?r traethodau. Asesir y fedr hon fel rhan o?r traethodau. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i?w ddefnyddio mewn ffordd addas. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith. Ni fydd asesu ffurfiol o?r sgiliau hyn. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6