Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | Seminarau 10 x 1 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr | 60% |
Asesiad Semester | 2 traethawd o 2,500 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ol cwblhau'r modiwl hwn, dylai'r myfyrwyr allu:
a) Dangos eu bod yn gyfarwydd a chorff sylweddol o wybodaeth hanesyddol am ddatblygiadau yng nghymdeithas Cymru yn y cyfnod 1868-1950
b) Meddwl yn feirniadol am y cysylltiadau rhwng y newidiadau cymdeithasol ac economaidd sylfaenol ac arferion cymdeithasol ehangach, a'r hunaniaethau cymdeithasol a gwleidyddol newydd a grewyd.
c) Dangos eu bod yn gyfarwydd ag ystod eang o dechnegau hanesyddol sy'r berthnasol i hanes cymdeithasol y Gymru fodern
ch) Hel eitemau priodol o dystiolaeth hanesyddol, a'r pwyso a'r mesur
d) Darllen testunau eilaidd, a'r dadansoddi a meddwl amdanynt yn feirniadol
dd) Datblygu'r gallu i bwyso a mesur cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol penodol, a'r herio lle bo angen.
e) Datblygu sgiliau ar lafar (heb eu hasesu) a sgiliau ysgrifennu a fydd yn gwella drwy drafodaethau seminarau a thrwy ysgrifennu traethodau
f) Gweithio'r annibynnol ac ar y cyd, a chyfrannu at drafodaethau gr'r (heb eu hasesu).
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn yw olrhain y prif newidiadau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yng Nghymru oddi ar 1868. Ymhlith y themau a drafodir fydd goruchafiaeth a dirywiad y Gymru ymneilltuol Ryddfrydol; effaith dau Ryfel Byd ar y gymdeithas a'r newidiadau a achoswyd gan y Dirgwasgiad rhwng y rhyfeloedd; goruchafiaeth y Blaid Lafur ac ail-lunio'r economi oddi ar 1945.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6