Gwobrau am gyflawniad eithriadol mewn Mathemateg

19 Gorffennaf 2021

Mae’r adran yn dyfarnu gwobrau yn flynyddol i fyfyrwyr sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau Mathemateg dros yn flwyddyn a fu, diolch i roddion a chymynroddion gan staff a myfyrwyr blaenorol.

Rydym yn gwobrwyo nifer o fyfyrwyr blwyddyn olaf eleni. Yr enillwyr yw:

Gwobr Pennington ar gyfer Mathemateg Bur, er cof am yr Athro Barry Pennington, Pennaeth Mathemateg Bur 1961-1968. Mae’r wobr hon yn cael ei rhoi am berfformiad eithriadol gan fyfyriwr blwyddyn olaf. Yr enillwyr eleni yw Adrian Wisnios, Hywel Normington, Aleksandra Dacko, Caryl Jones a Stanley Gough.

Gwobr O.L. Davies ar gyfer Ystadegaeth, er cof am yr Athro Owen Davies, Pennaeth Ystadegaeth 1968-1975. Mae’r wobr hon yn cael ei rhoi am y perfformiad gorau mewn ystadegaeth gan fyfyriwr israddedig, a’r enillydd eleni yw Sian Turner.

Gwobr T.V. Davies ar gyfer Mathemateg Gymhwysol, er cof am yr Athro T.V. Davies, Pennaeth Mathemateg Gymhwysol 1958-1967. Mae’r wobr hon yn cael ei rhoi am berfformiad rhagorol mewn Mathemateg Gymhwysol gan fyfyriwr israddedig neu uwchraddedig, ac mae’r enillwyr eleni’n cynnwys y myfyrwyr blwyddyn olaf Amelia Bell a Harry Sullivan.

Mae gwobr Clive Pollard ar gyfer Mathemateg wedi cael ei enwi ar ôl cyn-fyfyriwr a raddiodd mewn Mathemateg Bur yn 1972. Mae’r wobr yn cael ei rhoi i fyfyrwyr mathemateg sydd wedi dangos y gwelliant mwyaf yn eu gwaith academaidd rhan 2. Yr enillwyr eleni yw Jack Zsigo, Lauren Connolly, ac Erwan Jones.

Mae Adrian Wisnios a Hywel Normington hefyd yn derbyn gwobrau gan y Sefydliad Mathemateg a’i Gymhwysiadau (Institute of Mathematics and its Applications, ima.org.uk) am y perfformiad cyffredinol gorau.

Llongyfarchiadau i’n holl raddedigion ac yn enwedig i’r enillwyr gwobrau uchod.

Mae gwobrau hefyd wedi cael eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd ddim yn eu blwyddyn olaf, ac rydym yn gobeithio llongyfarch y myfyrwyr isod pan maent yn dychwelyd atom fis Medi.

Dyfarnwyd Gwobrau T.V. Davies ar gyfer Mathemateg Gymhwysol i Emma Gibson, Cherry Blackburn, Llio Davies, Hannah Cooper a Nathan Robertshaw, a dyfarnwyd Gwobrau V.C. Morton am Fathemateg i E'lsie Ocaka, Katie Taylor a Christian Chelland.

Mae gwobr C.D. Easthope ar gyfer Mathemateg er cof am Dr Colin Easthope, Uwch Ddarlithydd mewn Mathemateg Gymhwysol 1936-1975 yn cael ei rhoi am berfformiad eithriadol gan unrhyw fyfyriwr israddedig mathemateg. Cafodd gwobrau Easthope eu rhoi eleni i Sam Grundy Tenn, Holly Blyth, Kaitlin Ashton, Patrik Liba, George Lee, John Aaltio, Trystan Hooper ac Aneirin Griffiths.

Yn olaf, dyfarnir Gwobr Goffa Mike Jones ar y cyd rhwng yr adrannau Mathemateg a Ffiseg fel cymynrodd o ystâd cyn fyfyriwr a fu farw yn 2009. Yr enillydd eleni yw Helen McDougall.

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein myfyrwyr israddedig yn ôl ac i longyfarch yr enillwyr gwobrau yma.