Gwobrau Staff a Myfyrwyr ar gyfer Mathemateg

08 Ebrill 2019

Enillodd dwy fyfyrwraig Mathemateg yn eu categorïau yng Ngwobrau Staff a Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Aberystwyth 2020.

Cafodd Daphne Pacey, sy’n fyfyrwraig gradd gyfun mewn Hanes a Mathemateg, ei chydnabod am ei gwaith gwirfoddol yn y gymuned yn Aberystwyth, gan ennill y wobr Myfyriwr Wirfoddolwr y Flwyddyn.

Bu i Panna Karlinger, sydd bellach yn fyfyriwr uwchraddedig mewn Addysg (Mathemateg), ddilyn ar ei llwyddiant y llynedd (lle enillodd Mentor Myfyriwr y Flwyddyn) trwy ennill y wobr am Athro Uwchraddedig y Flwyddyn, am ei “gallu i annog myfyrwyr i ymwneud â’u dysgu” mewn tiwtorialau Mathemateg.

Cafodd ein darlithydd newydd Daniel Peck ei enwebu fel darlithydd y flwyddyn, sy’n gamp ryfeddol.

Mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu cyfraniadau eithriadol staff, myfyrwyr, cynrychiolwyr academaidd ac adrannau ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cynhaliwyd y noson wobrwyo eleni gan Undeb Myfyriwr Aberystwyth gyda chefnogaeth y Brifysgol, ar nos Iau, 30ain o Ebrill 2020. Caiff y gwobrau eu henwebu, pennu a’u cyflwyno gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.