Dulliau adeiladol o ffactoriad

24 Chwefror 2020

Mae Gennady Mishuris, Athro mewn Modelu Mathemategol yn yr adran, wedi dychwelyd yn ddiweddar o ymweliad i gampws Abu Dhabi o Brifysgol Efrog Newydd (NYUAD) lle bu’n gweithio ar brosiect ymchwil  ar “Ddulliau adeiladol o ffactoriad”.

Trefnwyd y cyfarfod hwn gan yr Athro Ilya Spitkovsky yn NYUAD, fel dilyniant i weithdy llwyddiannus ar Ffactoriad Ffwythiannau Matrics a drefnwyd gan yr Athro Mishuris yn ddiweddar fel rhan o gyfarfod Sefydliad Isaac Newton yng Nghaergrawnt ar y dechneg Wiener Hopf. Mae’r pwnc heriol yma’n denu diddordeb o rannau pur a chymhwysol y gymuned fathemategol, ac mae nifer o’r mynychwyr wedi cydweithio i ysgrifennu monograff Springer a fydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan.