Dau Gymrawd Sêr Cymru

15 Rhagfyr 2017

Mae’r Adran bellach yn lletya dau Gymrawd Ymchwil Rhaglen Sêr Cymru II, sy’n gweithio mewn dau faes gwahanol o fathemateg. Mae’r cynllun yn un sy’n cael ei gyllido ar y cyd rhwng y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o ddenu ymchwilwyr ifanc o’r safon uchaf i weithio ym mhrifysgolion Cymru.

Mae Dr Paolo Musolino, sydd hefyd yn cael ei gefnogi gan Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd, yn ymuno â ni o Brifysgol Padua yn yr Eidal. Mae ei ymchwil yn ymwneud â datblygu offer mathemategol er mwyn dadansoddi priodweddau datrysiadau i hafaliadau differol rhannol (maes a gyfeirir ato fel dadansoddiad ffwythiannol) sy’n disgrifio deunyddiau cyfansawdd a mandyllog. Mae gan ei waith gymwysiadau mewn peirianneg, biomecaneg, nano-wyddoniaeth a geoffiseg.

Cyn ymuno â ni, bu Dr Daniel McNulty yn gweithio yn y Weriniaeth Tsiec a De Corea, wedi iddo gwblhau ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Efrog. Mae ei ddiddordebau ymchwil o fewn gwybodaeth cwantwm a’i seiliau. Mae’n anelu i ateb cwestiynau sylfaenol am strwythur a bodolaeth mathau arbennig o fesuriadau cwantwm.