Emily Price

22 Mai 2017

Roedd Emily Price yn fyfyrwraig yn ei blwyddyn olaf yn astudio Mathemateg a Ffiseg yma. Roedd yn ysgytwad i'r staff a'r myfyrwyr glywed am ei marwolaeth drasig ar 12 Mai. Cyfrannodd Emily yn llawn i fywyd y ddwy adran, ac roedd hi'n ymddiddori'n fawr mewn cyfathrebu â phobl ifanc am wyddoniaeth a'u hannog i astudio'r pynciau a oedd mor agos at ei chalon, ac roedd ganddi ddawn ddigamsyniol wrth wneud hynny. Hi fyddai'r gyntaf i wirfoddoli bob amser i fod yn llysgennad ac i helpu mewn digwyddiadau estyn-allan yn y brifysgol ac mewn ysgolion a ffeiriau. Gyda'i gwên dawel a'i brwdfrydedd, fe gofir amdani'n annwyl iawn a bydd ei chyd-fyfyrwyr a'r staff yn Aberystwyth yn gweld ei heisiau'n fawr. Mae croeso i aelodau'r brifysgol gofnodi eu sylwadau yn y llyfr cydymdeimlo yn Swyddfa Gyffredinol Mathemateg a Ffiseg.