Mathemategwyr Yfory Heddiw

02 Chwefror 2016

Mae Tom O'Neill, myfyriwr yn ei bedwaredd flwyddyn, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr GCHQ yn y gynhadledd “Tomorrow’s Mathematicians Today 2016”. Bydd ei gyflwyniad "From Butterflies to Bridges: A Study of Wave Propagation through Periodic Structures", sy’n seiliedig ar ei brosiect MMath, yn trafod modelau mathemategol ar gyfer tonnau sy’n defnyddio ffwythiannau Green. Mae’r gynhadledd flynyddol yma wedi’i hanelu at fathemategwyr israddedig ac wedi’i noddi gan Sefydliad Mathemateg a’i Gymhwysiadau (Institute of Mathematics and its Applications). Y lleoliad ar gyfer y gynhadledd y flwyddyn hon yw Prifysgol Greenwich a’r dyddiad yw’r 13eg o Chwefror. Dewiswyd cyflwyniad Tom ar sail crynodeb 500 gair, ac mae’n un o chwech i gyrraedd y rhestr fer, sy’n golygu y bydd ganddo 20 munud i gyflwyno ei waith a pherswadio’r beirniaid mai ef sy’n haeddu’r wobr o £400.