Pen-blwydd Hapus i'r LMS

11 Medi 2015

Cynhaliodd yr adran ddigwyddiad ar y 3ydd o Fedi i ddathlu sefydlu Cymdeithas Fathemategol Llundain 150 mlynedd yn ôl. Yn dilyn darlith wahoddedig gan Massimiliano Gei (Caerdydd) â'r teitl "Mechanics of Pre-stressed thin films", oedd yn ffurfio rhan o ysgol haf CERMAT, cyflwynodd Alun Morris, cyn drysorydd y Gymdeithas, araith fer ar y cysylltiadau sydd gan Aberystwyth gyda'r LMS, rhai sy'n ymestyn yn ôl i'w sefydlu. Rhoddwyd llwncdestun i iechyd mathemateg a'r LMS.