Llwyddiant Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil i’r Adran Fathemateg

05 Ionawr 2015

Derbyniodd yr Adran Fathemateg ganlyniadau da yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY2014), ac mae’n parhau i fod un o’r adrannau gorau yng Nghymru. Dychwelodd yr adran bron i 90% o’n staff i’r FfRhY, y gyfran uchaf o unrhyw adran fathemateg Gymreig, sy’n dangos fod ymchwil yn chwarae rhan flaengar yn ein haddysgu. Mae’r canlyniadau’n dangos fod 1 o bob 8 o’n hallbynnau ymchwil o safon byd-eang, gyda mwy na 60% naill ai o safon byd eang neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Dyfarnwyd bod ein holl ymchwil, a’r effaith mae’n ei gael y tu allan i brifysgolion o safon ryngwladol.