Ymweliad yr Eidalwyr i gydweithio ar holltau

08 Medi 2014

Roedd Dr. Andrea Nobili a'r Athro Enrico Radi o Brifysgol Modena a Reggio Emilia yn westeion yn yr Adran Fathemateg yn ddiweddar dan ein cynllun ymwelwyr academaidd. Roeddynt yn cydweithio â Dr Adam Vellender a'r Athro Gennady Mishuris ar broblemau yn ymwneud â modelau mathemategol o hollti. Derbyniodd Dr Nobili Gymrodoriaeth Haf yr Adrannau Mathemateg a Ffiseg, wnaeth ariannu ei gyfnod yma am fis. Yn ystod ei ymweliad, cyflwynodd seminar â'r teitl "Nonlinear effects in elasticity", oedd yn dangos pwysigrwydd aflinoledd wrth fodelu ffenomenau ffisegol fel priodweddau optegol crisialau hylif ac ymddygiad seiliau elastig.